Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth y gorchymyn i rym am 8pm ar 25 Tachwedd a bydd yn weithredol tan 8pm yfory, dydd Sadwrn 27 Tachwedd.
Mae'r gorchymyn yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir ar y map, gan gynnwys Pond Road, Lakesidw Way a hen safle ysgol Nant-y-glo, ac mae'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn neu'n debygol o aflonyddu ar aelodau'r cyhoedd, eu dychryn neu beri gofid iddynt.
Source: Google Maps
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud byddant yn cael eu harestio.
Rhoddwyd y gorchymyn ar waith yn dilyn hysbysiadau am wyau'n cael eu taflu at gerbydau a difrod i eiddo.
Meddai Arolygydd Shane Underwood:
"Rydym wedi derbyn nifer cynyddol o alwadau'n riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Nant-y-glo ac rydym wedi rhoi gorchymyn gwasgaru ar waith i dawelu meddwl trigolion.
"Nid yw'r math hwn o ymddygiad byth yn dderbyniol: nid yn unig mae taflu wyau at gerbydau sy'n mynd heibio'n difrodi eiddo, mae hefyd yn rhoi modurwyr a cherddwyr cyfagos mewn perygl.
“Ni fydd ymddygiad fel hwn yn cael ei oddef gan Heddlu Gwent a byddwn yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n achosi anhrefn a niwed yn ein cymunedau.
"Gofynnwn i rieni sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant bob amser, yn arbennig tra bydd y gorchymyn gwasgaru yn weithredol. Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth am y rhai sy'n gyfrifol am yr anhrefn diweddar gysylltu â ni ar 101, neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter."