Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daw'r gorchymyn o ganlyniad i hysbysiadau cynyddol am ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol.
Mae'r gorchymyn yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn neu'n debygol o aflonyddu ar aelodau'r cyhoedd, eu dychryn neu beri gofid iddynt.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.
Daw'r gorchymyn i rym am 5pm heno (dydd Gwener 26 Tachwedd) a bydd yn parhau tan 2.30am ddydd Sul 28 Tachwedd.
Bydd yn cynnwys yr ardal a ddangosir ar y map, gan gynnwys canol tref Coed-duon, Heol y Clogwyn, Hall Street, Bridge Street, Heol Gordon, Coronation Road, Pentwyn Avenue, Sunnybank Road (yn cynnwys Lôn Grafel), Wesley Road, y Farchnad a pharc manwerthu Coed-duon.
Source: Google Maps
Meddai Arolygydd Andrew Boucher:
"Mae amddiffyn cymunedau a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd trigolion ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymunedau. Byddwn yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n achosi anhrefn a niwed.
“Wrth i'r penwythnos ddechrau, gofynnwn i rieni sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant bob amser, yn arbennig tra bydd y gorchymyn gwasgaru yn weithredol."