Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi ymroi o’r newydd i ddileu trais yn erbyn menywod a merched trwy gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn eleni gyda balchder.
Ymgyrch byd-eang yw Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, a dynion a bechgyn yn benodol, i gymryd camau gweithredu unigol a gyda'i gilydd a herio'r ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi na chadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod.
Eleni mae'r llu yn cefnogi #Her30 sy'n tynnu sylw at yr effaith gall cam-drin domestig ei gael ar blant a phobl ifanc. Bod dydd mae 30 o blant ledled Gwent yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau o gam-drin domestig yn eu cartrefi lle mae'r heddlu'n cael eu galw. Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at y gwir effaith mae cam-drin domestig yn ei gael a dangos nad yw ymddygiad fel hwn yn dderbyniol.
Meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly:
"Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ddileu trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched.
"Mae cam-drin domestig, a throseddau eraill tebyg, yn cael effaith barhaol ar oroeswyr, ond mae hefyd yn effeithio ar y rhai sy’n dyst i’r ymddygiad hwn
"Mae hyn yn cael mwy o effaith fyth ar blant
“Trwy sefyll yn gadarn yn erbyn trais mae pob un ohonom yn amddiffyn menywod a phlant ac rydym hefyd yn sicrhau y bydd cenhedlaeth y dyfodol yn tyfu i fyny mewn byd lle mae dangos parch tuag at bobl eraill yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd yn gwbl ganiataol.
"Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef y drosedd hon, dewch i siarad gyda ni.
"Rydym yma i’ch helpu chi”.
Yn rhan o'r ymgyrch mae swyddogion yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau i helpu i hyrwyddo'r neges nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn dderbyniol, ac ni fydd yn cael ei oddef.
I gael rhagor o wybodaeth am #Her30 ac i gymryd rhan, ewch i: Diwrnod Rhuban Gwyn 2021 | Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)
Gall unrhyw un sy'n teimlo eu bod yn dioddef cam-drin, neu sy'n pryderu am ffrind neu aelod o'r teulu, ffonio'r heddlu ar 101 neu Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.