Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo bawb,
Dyma fy mlog cyntaf fel eich arolygydd yn ardaloedd y Coed-duon a Rhisga.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac yn wir drwy gydol y pandemig, mae ein timau plismona yn y gymdogaeth wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i gadw’n cymunedau ni’n ddiogel – ac rydyn ni, fel tîm ac fel rhan o’r gymuned, wedi cyflawni llawer i fod yn falch ohono.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n rhedeg pedwar cynllun plismona sy’n ymateb i broblemau (POP) yn yr ardal.
Rhoddwyd y rhain ar waith yn dilyn yr adborth gawson ni gennych chi yn yr arolwg Eich Llais diwethaf (cadwch lygad am lansiad yr arolwg nesaf, a fydd yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthon ni beth rydych chi’n ei feddwl am eich ardal chi yn nes ymlaen y mis yma).
Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau’n canolbwyntio ar y canlynol:
Rwy’n falch o ddweud bod troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn is eleni o gymharu â blynyddoedd eraill, ac rwy’n credu bod hyn oherwydd ymrwymiad a gwaith caled ein timau, ein partneriaid a’n cymunedau.
Mae swyddogion yn y gymdogaeth wedi bod yn gweithio gyda Caerffili Mwy Diogel, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, gwirfoddolwyr ac ysgolion lleol i nodi ymyraethau ystyrlon ac i erlyn pobl sy’n euog o droseddau ac anhrefn yn yr ardal.
Mae’n flaenoriaeth gennym i ymdrin â’r broblem wrth ei gwraidd er mwyn atal troseddau rhag digwydd eto.
Rydyn ni’n defnyddio ystod o declynnau dadansoddol i nodi patrymau a materion sy’n codi, ac yna’n gweithio gyda phartneriaid i daclo’r rhain. Lle bo'n briodol, rydyn ni wedi bod yn defnyddio dulliau deddfwriaethol, fel hysbysiadau gwarchod y gymuned, gorchmynion ymddygiad troseddol, a gwaharddebau i atal aildroseddu. Byddwch wedi gweld sôn am hyn ar gyfrifon cymdeithasol Heddlu Gwent yn ddiweddar.
Er gwaetha’r gostyngiad cyffredinol yma, rydyn ni’n ymwybodol bod llawer o bobl yn dal i brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Dros Galan Gaeaf, awdurdodais orchymyn gwasgaru yng nghanol tref y Coed-duon yn dilyn adroddiadau o anhrefn, ac rydyn ni wedi parhau â’n gwaith i daclo defnydd peryglus a niweidiol o gerbydau oddi ar y ffordd ar ein mynyddoedd, gan ymafael mewn dros hanner cant o gerbydau dros y chwe mis diwethaf.
Wrth i ni gyrraedd misoedd y gaeaf, bydd yr ymrwymiad yma’n parhau, ynghyd â’n gwaith i fynd i’r afael â thueddiadau tymhorol fel dwyn o siopau, llosgi bwriadol, byrgleriaeth a throseddau cerbydau.
Cadwch lygad am ein cyngor ar atal troseddu yn ystod y misoedd nesaf.
Fel bob amser, ar ran y tîm yn y Coed-duon a Rhisga, diolch am eich cefnogaeth barhaus.