Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae SCC Wilkinson yn astudio Iaith Arwyddion Prydain ac yn gobeithio sefydlu rhwydwaith cefnogi newydd ym Mlaenau Gwent.
Fel SCC gyda chyfrifoldeb dros ymgysylltu â’r gymuned, mae Julieanne Wilkinson yn angerddol dros sicrhau bod holl drigolion Gwent yn teimlo bod eu pryderon yn cael sylw, a bod pobl yn hyderus y gallant fynd at Heddlu Gwent am gymorth pan fydd angen.
Mae ei rôl yn cynnwys meithrin cydberthnasau cadarnhaol rhwng Heddlu Gwent a chymunedau lleol, codi ymwybyddiaeth am grwpiau cymorth yn y gymuned a darparu cyngor atal trosedd.
Ar ôl treulio 30 mlynedd gyda’r llu, mae gan Julianne ddigon o brofiad o gefnogi timau plismona lleol a rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd, ac mae ei hangerdd dros fod yn gynhwysol ac ymgysylltu â phobl wedi ei harwain at y rôl newydd hon.
“Fel swyddog ymgysylltu Blaenau Gwent,” meddai Julieanne, “rwy’n teimlo’n angerddol - fel y mae’r llu hefyd - dros fod mor gynhwysol â phosibl trwy ddarparu gwasanaethau i holl aelodau cymdeithas.
“Mae hyn yn cynnwys cefnogi a diogelu pobl fyddar a thrwm eu clyw – trwy wneud i drigolion deimlo eu bod yn allu dod atom ni heb ofni y byddant yn cael eu camddeall neu na fyddant yn cael cefnogaeth.
“Rwyf yn astudio Iaith Arwyddion Prydain ar hyn o bryd ac yn gobeithio bod mwy a mwy o bobl yng Ngwent yn gwybod am y rhwydweithiau lleol sydd ar gael i’w helpu nhw, a bod eu heddlu lleol yma i ymateb i hysbysiadau am drosedd – boed yn drosedd yn y gymuned fel byrgleriaeth, trosedd cerbydau neu drosedd casineb.”
Ni ddaeth Iaith Arwyddion Prydain yn iaith leiafrifol swyddogol yn y DU tan 2003, ac yn ddiweddar treuliodd SCC Wilkinson ddiwrnod gyda Chyngor Pobl Fyddar Cymru ym Mhontypridd i ddysgu am yr hyfforddiant a’r gwasanaethau cefnogi maen nhw’n eu cynnig i bobl yng Nghymru.
“Mae Cyngor Pobl Fyddar Cymru yn cefnogi clybiau byddar yng Nghymru,” esbonia Julieanne, “yn helpu pobl fyddar gyda phethau fel trefnu apwyntiadau iechyd a thalu eu biliau ar y ffôn.
“Maen nhw hefyd yn rhedeg cyrsiau Iaith Arwyddion Prydain a hyfforddiant seiberddiogelwch i bobl fyddar.
“Er nad oes clwb ym Mlaenau Gwent ar hyn o bryd, rwyf yn gobeithio sefydlu grŵp newydd gyda chymorth Cyngor Pobl Fyddar Cymru.”
Meddai SCC Wilkinson: “Cefais wybod y llynedd fy mod yn dioddef o ddyslecsia. Ers hynny rwyf wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth rwyf wedi ei derbyn gan Heddlu Gwent yn fawr. Maen nhw wedi rhoi sawl peth ar waith er mwyn fy helpu i wneud fy ngwaith hyd eithaf fy ngallu.
“Rwyf am adlewyrchu’r gefnogaeth hon yn ein cymuned, a gadael i bobl ag anableddau wybod bod Heddlu Gwent a phartneriaid yno iddyn nhw pan fydd angen eu cymorth arnynt.”
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Julieanne ym Mlaenau Gwent, ac i ddatgan diddordeb yn y clwb byddar arfaethedig ym Mlaenau Gwent, e-bostiwch [email protected].
I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor Pobl Fyddar Cymru, ewch i https://www.wcdeaf.org.uk/.