Stamp amser presennol: 06/02/23 10:38:47
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

GWENT POLICE FULL_ white

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

40 o gerbydau wedi cael eu stopio yn rhan o ymgyrch i wasgu'n dynn ar droseddau moduro

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Newyddion

16:43 03/09/2021

Gwiriodd swyddogion 40 o gerbydau ac arestiwyd pedwar o bobl yn rhan o'r ymgyrch ddiweddaraf i wasgu'n dynn ar droseddau moduro.

Nod Ymgyrch Utah - diwrnod o weithredu amlasiantaeth – yw darganfod a mynd i'r afael â defnyddwyr ffyrdd sy'n rhoi modurwyr eraill mewn perygl - naill ai drwy yrru'n anghyfreithlon neu drwy yrru cerbydau nad ydynt o safon ddiogel.

Digwyddodd yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd ddydd Mawrth 31 Awst yn safle profi a phont bwyso'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ar gylchfan Coldra, Casnewydd.

Roedd yr ymgyrch yn cynnwys swyddogion o'r uned plismona ffyrdd, yr adran cŵn, tîm troseddau gwledig, tîm Dangos y Drws i Drosedd, yr heddlu gwirfoddol, swyddogion ymateb a gwirfoddolwyr staff yr heddlu.

Ymunodd swyddogion â phartneriaid o'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, GanBwyll, y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Troseddau Cerbydau Cenedlaethol a The Equipment Register (TER).

Dyma a ddigwyddodd yn ystod diwrnod yr ymgyrch:

    • 40 o gerbydau wedi cael eu stopio
    • Pedwar dyn wedi cael eu harestio - dau ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, un ar amheuaeth o fod â sylwedd seicoweithredol yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi a dyn yr oedd swyddogion eisiau siarad ag ef mewn cysylltiad ag ymchwiliad parhaus.
    • 19 adroddiad troseddau traffig (TOR) wedi cael eu cyflwyno gan gynnwys tri am gael llwyth peryglus, tri am beidio â gwisgo gwregys diogelwch, un am ddefnyddio ffôn symudol wrth y llyw a phedwar am ddiffyg yswiriant.
    • Pedwar cerbyd wedi cael eu hatafaelu am yrru heb drwydded neu yswiriant
    • Dau yrrwr wedi cael eu riportio am ddiffyg treth
    • Un trelar ac un car wedi'u dwyn wedi cael eu hadfeddiannu
    • Cofnododd GanBwyll 40 modurwr yn gyrru dros y terfyn cyflymder.
    • Cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau 22 gwaharddiad addasrwydd i'r ffordd fawr.

Dywedodd PC Sally Davies:

“Rydym wedi ymroi i wella diogelwch ar y ffyrdd i bawb sy'n defnyddio'r ffyrdd yng Ngwent ac mae Ymgyrch Utah yn un o'r ffyrdd rydym yn cymryd camau gweithredu i fynd i'r afael â throseddau moduro. Rwyf yn gobeithio y bydd canlyniadau'r ymgyrch hwn yn anfon neges glir bod gyrru'n anghyfrifol neu beidio â chynnal a chadw eich cerbyd yn annerbyniol a byddwn yn ymdrin yn gadarn â phobl sy'n gwneud hynny.

“Hoffwn ddiolch i'n partneriaid am weithio gyda ni i wneud y ffyrdd yn ein cymunedau mor ddiogel â phosibl.

“Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau diogelwch pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd - gofynnaf yn daer ar fodurwyr i yrru'n ofalus, yn gyfrifol ac o fewn cyfyngiadau'r gyfraith ac i sicrhau bod eu cerbydau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda trwy'r amser."

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.