Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymchwilio i hysbysiad am ymosodiad yn Park View, Bargod tua 11.30am ddydd Sul 12 Medi, ar ôl i bobl weld grŵp o ddynion yn ymladd yn ôl y sôn.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Andrew Tuck:
“Aethpwyd â dyn 44 oed o ardal Bargod mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle mae’n cael ei drin am anaf pen.
“Rydym wedi arestio dyn 47 oed o ardal Nelson a dyn 31 oed o ardal Tredegar Newydd ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac mae’r ddau yn y ddalfa.
“Mae ymholiadau’n parhau ac efallai y gwelwch chi nifer o swyddogion yn ardal Bargod wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai fod o gymorth i’n hymchwiliad ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100321684.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter hefyd. Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.