Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:30 03/09/2021
Mae'n bleser gennym groesawu 20 swyddog cymorth cymunedol ychwanegol yr hydref/gaeaf hwn.
Bydd y swyddogion hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a byddant yn ymuno â'n timau plismona cymdogaeth ac yn gweithio wrth galon cymunedau ledled ardal Heddlu Gwent.
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Mae swyddogion cymorth cymunedol yn rhan allweddol o'r teulu plismona ac maen nhw'n gwneud cyfraniad enfawr yn tawelu meddwl cymunedau lleol ac atal trosedd. Bydd y swyddogion hyn yn amlwg iawn ac ar y rheng flaen, yn mynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i'n trigolion.
"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad parhaus i gefnogi'r maes plismona hwn."
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: “Swyddogion cymorth cymunedol yw'r cyswllt rhwng yr heddlu a'n cymunedau, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu cymunedau mwy cydlynus ledled Gwent. Nid yw'n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
“Rwyf yn croesawu'r gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dangos sut mae gwaith partner yng Nghymru'n gallu bod o fudd uniongyrchol i'n cymunedau."
"Bydd y swyddogion newydd hyn yn ychwanegiad derbyniol iawn i Heddlu Gwent ac yn gaffaeliad mawr i'n cymunedau."
Os hoffech gofrestru eich diddordeb yn y swyddi hyn, gallwch wneud hynny yma. Dylai'r broses recriwtio fod wedi gorffen erbyn mis Ionawr 2022.