Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:37 19/04/2022
Mae garddwyr brwd Torfaen yn cofrestru ar gyfer menter atal trosedd newydd sy’n eu helpu i amddiffyn eu heiddo rhag lladron manteisgar.
Mae Kim Hughes o Heddlu Gwent, sy’n swyddog cymorth cymunedol yn Nhorfaen, wedi cyflwyno menter gwarchod rhandiroedd yn yr ardal yn ddiweddar – gyda’r nod o helpu perchnogion lleiniau rhandir i ddiogelu eu siediau a’u tai gwydr a chadw eu heiddo’n ddiogel.
Hyd yma, mae 11 o grwpiau rhandir lleol wedi cofrestru, gyda phobl rhwng 20 a 75 oed yn cael cyngor ar sut i farcio eitemau gyda SmartWater (hylif fforensig y mae modd ei olrhain sy’n caniatáu i eitemau gael eu dychwelyd i’w perchnogion a chysylltu troseddwyr â’u trosedd), sut i ddiogelu eitemau ar y safle mewn siediau personol, a sut i atal lladron.
Rhoddwyd pecynnau am ddim i’r safleoedd hefyd, yn cynnwys arwyddion gwarchod rhandiroedd, cyngor atal troseddau, SmartWater neu hylif marcio fforensig tebyg a ‘chardiau Loti’ – cardiau defnyddiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gadw rhestr fanwl o’r hyn maen nhw’n ei storio ar y safle.
Ac wrth i’r tywydd cynhesach ein cyrraedd, mae hi’n annog mwy o bobl i gofrestru gyda’r cynllun atal troseddau.
Meddai CSO Hughes:
“Mae rhandiroedd wedi bod yn darged i droseddwyr o’r blaen - yn aml gan fod eitemau yn cael eu cadw heb wyliadwriaeth ar y safle, a hynny weithiau yn y golwg, a’r ffaith fod rhai rhandiroedd yn ddiarffordd a heb dai preswyl yn agos atynt.
“Nod y cynllun gwarchod rhandiroedd yw dod â chymunedau at ei gilydd, rhannu arferion da, a chynnig ffordd o rannu gwybodaeth ymhlith y gymuned rhandiroedd.
“Ers lansio’r cynllun, mae hi wedi bod yn galonogol iawn gweld ystod eang o bobl yn Nhorfaen yn cofrestru, yn arddangos ein harwyddion, yn defnyddio ein ‘cardiau Loti’, ac yn dechrau rhoi ein cyngor atal trosedd ar waith.”
Nid perchnogion lleiniau rhandir yn Nhorfaen yn unig allai gael budd o’r cyngor. Fel ychwanegodd CSO Hughes, mae modd dilyn llawer o’r camau hyn i’ch helpu i gadw eich sied neu eich garej yn ddiogel:
“Bydden ni’n annog pobl i aros yn wyliadwrus drwy gydol y gwanwyn a’r haf er mwyn helpu i gadw eu siediau a’u rhandiroedd yn ddiogel. Gall mesurau fel defnyddio clo clap o ansawdd da, cloi eitemau gwerthfawr fel offer mewn bocs â chlo, a gwneud yn siŵr eu bod nhw o’r golwg helpu i gadw eich eiddo’n ddiogel.”
Sut i amddiffyn eich llain rhandir:
Mae CSO Hughes wedi bod yn cydweithio’n agos gyda thîm Dangos y Drws i Drosedd yr heddlu, sef tîm sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â throseddau meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn, yn helpu i farcio eitemau gyda SmartWater a rhoi arwyddion ar safleoedd i atal lladrad.
Os ydych chi’n berchen ar lain rhandir yn Nhorfaen ac yn dymuno dysgu rhagor am fenter gwarchod rhandiroedd Heddlu Gwent, gallwch siarad â’r tîm drwy anfon e-bost i [email protected].