Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ble wnaethoch chi ddechrau eich gyrfa blismona, Jennie? A wnaethoch chi ymuno'n syth allan o fyd addysg neu ddilyn llwybr gyrfa gwahanol?
Ymunais i â Heddlu Gwent yn 2001, ar ôl fy mhen-blwydd yn 20 oed ychydig ddiwrnodau ynghynt.
Rwyf bob amser wedi eisiau bod yn swyddog heddlu, felly, ar ôl dychwelyd i Gymru yn 1999 ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd (roeddwn i wedi symud i Ganada fel plentyn ifanc gyda fy nheulu) es ati i ddechrau fy ngyrfa blismona.
Es i ddim yn syth i blismona: Gweithiais ym maes cyllid cyn ymuno â'r heddlu, a phan ddechreuais, fe wnes i gwblhau gradd mewn astudiaethau plismona ym Mhrifysgol Agored Portsmouth i ehangu fy ngwybodaeth a’m profiad.
Rwy’n credu bod y cymysgedd hwnnw o ddysgu ymarferol a'r theori y tu ôl i'm hastudiaethau wedi rhoi sylfaen dda iawn i mi ar gyfer plismona.
Sut mae eich gyrfa gyda Heddlu Gwent wedi datblygu hyd yma?
Roedd fy swydd gyntaf fel swyddog yr heddlu yn Fairwater yng Nghwmbrân. Gorsaf fechan oedd hon wedi'i chysylltu â'r siopau ond roedd awyrgylch cymunedol gwych yno. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n dal i deimlo sy’n hanfodol bwysig nawr – gwrando go iawn a siarad gyda'n cymunedau fel ein bod yn deall pryderon lleol ac yna’n gallu rhoi pethau ar waith i fynd i'r afael â nhw.
Arhosais i mewn rôl plismona ymatebol yng Nghwmbrân tan tua 2014, lle cefais ddyrchafiad fel rhingyll a symud i Bont-y-pŵl. Gwnaed y dyrchafiad dros dro hwnnw’n un parhaol ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach; ac erbyn hynny, roeddwn i’n gweithio o'r Coed-duon yng Nghaerffili.
Ym mis Medi 2020, yng nghanol y pandemig, cefais swydd arolygydd ymatebol dros dro yng ngorllewin Gwent (yn cwmpasu Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen) cyn cael y swydd ddelfrydol fel arolygydd yma yn Nhorfaen ym mis Chwefror eleni.
Fel y soniais, rwy’n credu bod y cyswllt â'r gymuned leol yn bwysig iawn, felly mae wedi bod yng nghefn fy meddwl erioed y byddwn wedi hoffi symud yn ôl i'r ardal mewn rôl plismona cymdogaeth. Felly, rydw i wrth fy modd i fod yn ôl. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n foment fawr o falchder i mi.
Ac, y tu hwnt i ddilyniant gyrfa, yn ystod fy nghyfnod fel swyddog, rydw i wedi gweithio gydag asiantaethau partner ar lefel leol a chenedlaethol i ddatblygu ein dull o fynd i'r afael â sylweddau seicoweithredol anghyfreithlon, gan gynnwys gweithredu'r Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol newydd ac, yn fwy diweddar, bûm yn helpu i ddatblygu Protocol Ellam yng Ngwent, cynllun sy'n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
Beth fyddech chi'n ei ddweud yw'r prif wahaniaethau rhwng plismona ymatebol a phlismona cymdogaeth?
I mi, y prif wahaniaeth yw bod plismona ymatebol yn ymwneud â delio â'r digwyddiadau sy'n cael eu riportio i ni bob dydd, fel digwyddiadau critigol, galwadau ynglŷn â phobl sy’n agored i niwed a throseddau. Mae plismona cymdogaeth yn ymwneud yn fwy ag ymgysylltu a gweithio gyda chymunedau ac asiantaethau eraill i ddod o hyd i atebion hirdymor i faterion parhaus.
Beth yw eich blaenoriaethau nawr rydych chi wedi ymgymryd â rôl yr arolygydd cymdogaeth yn Nhorfaen?
Yn y tymor byr, byddaf yn cyfarfod ag asiantaethau partner ac yn parhau i gefnogi fy swyddogion i sicrhau dealltwriaeth dda o bryderon lleol a rhoi mesurau ar waith sy'n mynd i'r afael â nhw'n effeithiol.
Mae'n ymwneud â gweithredu mesurau hirdymor sy'n mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar gymunedau Torfaen, materion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhywbeth a godwyd gan drigolion yn ein harolwg Eich Llais yn ddiweddar.
Ydych chi’n byw yng Ngwent? Rydych wedi sôn cyn hyn eich bod eisiau dychwelyd i Dorfaen. Pam hynny?
Ydw, rwy'n byw yng Ngwent. Treuliais 16 mlynedd yn byw yn Nhorfaen a Chasnewydd a symudais yn ôl i Dorfaen bum mlynedd yn ôl gyda fy nheulu.
Fel preswylydd yn yr ardal honno, rwy’n teimlo fy mod i’n deall y gymuned go iawn, a sut mae ymyraethau gennym ni, asiantaethau partner, elusennau a grwpiau cymunedol yn gallu cael effaith mor gadarnhaol ar fywyd bob dydd.
Un o elfennau allweddol bod yn effeithiol yw cael cefnogaeth gan ein cymunedau, felly byddwn yn parhau i annog unrhyw un y mae troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt i roi gwybod i ni amdano er mwyn caniatáu i ni ymchwilio a'ch cefnogi chi.
Ac yn olaf . . . eich deufis cyntaf yn y swydd. Sut maen nhw wedi bod a beth ydych chi wedi bod yn canolbwyntio arno?
Ym mis Mawrth roeddwn i gyda'r Tîm ym Mlaenafon pan ymwelodd Dug a Duges Caergrawnt â Hwb Blaenafon, canolfan ieuenctid sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n helpu ac yn cefnogi dros 600 o bobl ifanc leol; a Safle Treftadaeth y Byd.
Roedd hwn yn ddigwyddiad cymunedol go iawn gyda theuluoedd yn ymgasglu ar hyd y strydoedd i gael cipolwg ar y teulu brenhinol. Roedd hefyd yn gyfle gwych i mi gyfarfod a siarad â pherchnogion busnesau lleol, trigolion ac ymwelwyr yn y dref Gymreig hanesyddol hon.
Roeddwn i hefyd yn falch o weld ein menter gwarchod rhandiroedd yn Nhorfaen yn cael ei lansio. Mae SCC Hughes, sy'n arwain y cynllun, wedi bod yn siarad â deiliaid rhandiroedd ar draws yr ardal, gan siarad â nhw am y mesurau y gallant eu rhoi ar waith i gadw eu siediau, eu hoffer a'u heiddo yn ddiogel.
Gall pethau fel marcio eich offer gyda SmartWater, diogelu eich cynwysyddion storio gyda chloeon o ansawdd a chadw pethau gwerthfawr allan o'r golwg wneud gwahaniaeth go iawn ac atal lladron sy’n bachu ar unrhyw gyfle.
Mae ein swyddogion wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cysylltiedig. Mae'n gwbl annerbyniol ac ni fydd hyn yn cael ei oddef yn Nhorfaen.
Dyna pam roeddwn i’n drist o weld y cynnydd diweddar yn nifer yr adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r nos yn Ivor Street a Broad Street a’r cyffiniau, ym Mlaenafon.
O ganlyniad, rydym wedi cynyddu patrolau yn yr ardal a byddwn yn parhau i ddelio'n gadarn ag unrhyw un sy'n benderfynol o achosi gofid yn y gymuned.
Mae gwyliau'r Pasg wedi mynd heibio, ond rydym yn parhau i annog rhieni i siarad â'u plant am yr effaith y gall eu hymddygiad ei chael ar eu tref a'u cymdogion.
Un o'r ffyrdd rydyn ni’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yw cyhoeddi gorchmynion gwasgaru mewn ardaloedd sydd wedi gweld mwy o adroddiadau am ymddygiad o’r fath. Roedd hyn yn wir yng Nghwmbrân yn ddiweddar, lle'r awdurdodais orchmynion i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn achosion.
Mae gorchmynion yn rhoi pwerau ychwanegol i ni anfon grwpiau i ffwrdd o'r ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn neu achosi aflonyddwch, braw neu ofid. Os ydynt yn dychwelyd ar ôl cael eu gwasgaru, gallant gael eu harestio.
Bydd ein patrolau yng nghanol y dref yn parhau ac rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, gan gynnwys Canolfan Cwmbrân i adnabod y rheini sy'n gyfrifol.
Yn y rôl newydd hon, rwy'n arwain tîm o swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol sy'n frwdfrydig ac sy’n poeni am y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y materion sy’n dod i’n sylw, a dyna pam rwy’n annog ein trigolion a'n busnesau i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda ni fel y gallwn barhau i ymrwymo i gadw Torfaen yn lle diogel a phleserus i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Edrychaf ymlaen at rannu mwy o newyddion yn fy mlog nesaf.
Tan hynny, diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Yr Arolygydd Jennie Tinsley-Brustad