Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion ledled Bargod a Rhymni'n paratoi ar gyfer ymgyrchoedd sydd ar ddod i fynd i'r afael â phobl sy'n defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn yr ardal.
Mae Ymgyrch Harley – sy’n targedu gyrwyr cerbydau oddi ar y ffordd sy’n difrodi tir, aflonyddu ar gymunedau a rhoi defnyddwyr eraill y ffyrdd a cherddwyr mewn perygl - wedi bod ar waith ers 2020.
Ers hynny, mae tîm troseddau gwledig y llu, swyddogion cymdogaeth, heddlu gwirfoddol a mwy wedi gweithio gydag asiantaethau partner yn ystod ymgyrchoedd rheolaidd i ymateb i bryderon yn y gymdogaeth ac i roi sylw i'r broblem.
Yn defnyddio cerbydau arbenigol a dronau, mae ymgyrchoedd wedi arwain at atafaelu beiciau modur, beiciau cwad a mopedau am amryw o droseddau, gan gynnwys cael eu defnyddio heb yswiriant, heb gofrestriad neu drwydded, neu am gael eu gyrru'n beryglus neu mewn modd gwrthgymdeithasol.
Ac yn awr, yn dilyn sylwadau gan drigolion yn yr ardal, mae arolygydd plismona cymdogaeth Bargod yn parhau ymrwymiad y llu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau difrodol pobl sy’n gyrru cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon.
Meddai Arolygydd Thompson:
“Diolch i bawb a dreuliodd amser yn siarad â ni yn ein harolwg Ein Llais diweddar.
“Un o'r prif bryderon i drigolion yn ein hardal ni oedd y defnydd gwrthgymdeithasol a pheryglus o gerbydau oddi ar y ffordd.
“Gall gyrru cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon achosi difrod helaeth i dir, bywyd gwallt a chynefinoedd naturiol, ac mae defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn wrthgymdeithasol yn gallu cael effaith ehangach ar ein cymdogaethau a dychryn trigolion.
"Nid achosi niwsans sŵn ar ffyrdd llai sydd dan sylw yma (er bod hynny'n gallu bod yn broblem go iawn); mae'n gallu peri risgiau sylweddol i fodurwyr eraill a cherddwyr.
“Mae ein hymgyrchoedd, sy'n digwydd gydol y flwyddyn, yn cael eu harwain gan wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy ein hymchwiliadau, ond hefyd gan wybodaeth mae'r cyhoedd wedi ei darparu mewn adroddiadau.
"Dyna pam mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n cael eu heffeithio gan y problemau hyn yn cyflwyno eu hunain ac yn siarad â ni.
“Mae disgrifiadau o'r beiciau, gan gynnwys y lliw a gwneuthuriad, a disgrifiadau o'r reidwyr, ynghyd â gwybodaeth ynghylch lle maen nhw'n reidio a phryd, yn ein galluogi ni i greu darlun o'r troseddu - sy'n gwella ein gweithrediadau ac yn ein galluogi ni i wneud ein ffyrdd, strydoedd a chefn gwlad yn saffach."
Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned chi
Ychwanegodd Cwnstabl Stuart Turley, swyddog lleihau trosedd ac anhrefn gogledd Caerffili:
"Os ydych chi wedi gweld pobl yn eich tref chi yn defnyddio cerbydau'n anghyfreithlon neu mewn ffordd wrthgymdeithasol, dywedwch wrthym ni.
“Gallwch roi gwybod i ni drwy riportio ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio ein hystafell reoli ar 101.
“Os hoffech chi roi gwybod i ni yn anhysbys bod y defnydd o gerbydau oddi ar y ffordd yn effeithio arnoch chi, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
"Ydych chi o dan 18 oed ac yn pryderu am bobl yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich tref chi? Cadwch eich cymuned yn ddiogel trwy riportio'n ddienw ar https://www.fearless.org/.”
Gall y cyhoedd hefyd gyflwyno tystiolaeth o yrru gwrthgymdeithasol trwy Ymgyrch Snap, cynllun ar y cyd gyda GanBwyll sy'n annog y cyhoedd i gyflwyno delweddau (sy'n gallu dod o amryw o ffynonellau, gan gynnwys ffonau symudol, CCTV a dyfeisiau recordio eraill) yn syth i'r heddlu trwy fynd i https://gosafesnap.wales/.