Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:32 08/08/2022
Rydym yn apelio am wybodaeth i gynorthwyo ein hymholiadau i wrthdrawiad traffig angheuol yn Fochriw ddydd Sul 24 Gorffennaf.
Aeth swyddogion i adroddiad am wrthdrawiad traffig, ger Brook Row, tua 5.05am, a oedd yn cynnwys un cerbyd – Skoda Octavio llwydfelyn.
Cadarnhaodd parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a oedd hefyd yn bresennol, fod merch, 17, o ardal Trecelyn – a oedd yn deithiwr yn y car – wedi marw yn y fan a’r lle.
Gallwn gyhoeddi bellach mai ei henw yw Chloe Hayman ac mae ei theulu wedi rhyddhau’r deyrnged ganlynol iddi:
“Allwn ni ddim credu bod ein merch brydferth a chariadus a chwaer ofalgar i dri brawd bach wedi ei chymryd mor ifanc.
“O’r diwrnod y cafodd Chloe ei geni, roedd yn ferch fach benderfynol a ffyrnig o gryf a oedd yn brydferth ar y tu mewn a’r tu allan.
“Roedd Chloe’n byw bywyd i’r eithaf a daeth â chymaint o lawenydd a hapusrwydd i fywydau pawb.
“’Roedd pob eiliad yn ddifyr pan oedd Chloe o gwmpas.
“Roedd Chloe’n dod â hapusrwydd a chariad gyda hi i bob man ac roedd pawb yn ei charu.
“Bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod ac a gafodd y siawns i gwrdd â hi.
“Ni fydd ein bywydau byth yr un fath hebddi.”
Arestiwyd dyn 21 oed o Rymni ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a gyrru pan nad oedd yn ffit i yrru oherwydd diod.
Cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau’n parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â ni.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, sydd â lluniau CCTV, neu unrhyw fodurwyr â lluniau camera car ym Margod, Deri a Fochriw rhwng 4.30am a 5.10am gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu rhif cofnod 2200247542 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.