Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:57 01/08/2022
Mae swyddog o Heddlu Gwent wedi cael aduniad â merch o Faesycwmer – naw mlynedd ar iddo helpu gyda’i genedigaeth pan ddechreuodd ei mam esgor yn y Coed-duon.
Postiodd Cwnstabl Mark Powell neges ar dudalen Facebook gymunedol i ofyn sut oedd y fam a’i merch, ar ôl cael nodyn atgoffa o ben-blwydd y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ymatebodd Sara Jones i ddweud bod Imogen, sydd bellach yn naw oed, yn gwneud yn dda a gwahoddodd Cwnstabl Powell i gyfarfod â nhw.
Mae Imogen wedi clywed hanes ei genedigaeth lawer gwaith ac mae ganddi doriadau papur newydd o’r diwrnod hapus ond anodd i’w mam.
Roedd Sara o Faesycwmer, yn teithio gyda’i mam yng nghyfraith a’i thad yng nghyfraith i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd pan ddechreuodd golli dŵr.
Fe wnaethant stopio y tu allan i’r orsaf heddlu yn y Coed-duon lle gwnaeth dau swyddog yr heddlu – Cwnstabl Powell a Chwnstabl Helen Moss – helpu i eni Imogen.
Arweiniodd Cwnstabl Powell y gwaith o eni Imogen tra bod Cwnstabl Moss yn cynorthwyo’r ddarpar fam ac yn dal ei llaw.
Mae’n cofio bod Imogen fach yn ‘las’ wrth iddi ddod allan, ac roedd y llinyn bogail wedi’i lapio o amgylch ei gwddf. Tynnodd Cwnstabl Moss y llinyn oddi ar wddf y babi tra bod Cwnstabl yn annog Imogen i gymryd ei hanadl cyntaf.
Meddai Cwnstabl Mark Powell:
“Roedden i eisiau cysylltu i weld sut oedd y fam a’r ferch.
“Er nad yw’n rhywbeth sy’n digwydd bob dydd, rwyf i wedi cael y pleser o esgor mwy nag un babi ond mae pob un yn brofiad sy’n aros gyda chi am byth.
“Mae’n wych gweld pa mor dda y mae Imogen yn gwneud, yn enwedig ar ôl iddi roi cymaint o fraw i ni.”
Meddai Sara:
“Roeddwn i wedi bod yn siopa ac yn gallu teimlo poen yn fy nghefn.
“Fe wnaethon ni ffonio tad Imogen i roi gwybod iddo ond roedd hi’n rhy hwyr i ffonio’r ambiwlans ac felly fe aethon ni i’r car a chychwyn am yr ysbyty. Wnaethon ni ddim mynd yn bell iawn a bu’n rhaid i ni stopio yng Ngorsaf Heddlu y Coed-duon.
“Nid wyf i’n gallu cofio llawer; roedd popeth yn niwl braidd – ond rwy’n cofio Cwnstabl Moss yn dal fy llaw ac yn fy nghysuro."
Ychwanegodd Sara bod Imogen, sy’n mynychu Ysgol Gynradd Maesycwmer, yn gefnogwr pêl-droed brwd ac yn mwynhau chwarae pêl-droed gyda’i thad a’i brawd.
Meddai Cwnstabl Helen Moss:
“Roedd yn brofiad hyfryd helpu i ddod a bywyd newydd i’r byd ac i gael diweddglo hapus gyda’r fam a’r babi yn ddiogel ac yn iach.”