Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae grŵp ieuenctid yng Nghaerffili wedi gweithio gyda swyddogion o dîm Nxt Gen i greu gêm fwrdd sy’n dangos swyddogaeth y gwasanaethau brys mewn ffordd ddifyr ac addysgiadol.
Bydd y gêm fwrdd, a grëwyd gan Grŵp Prosiect y Fforwm Ieuenctid, yn cael ei dosbarthu i ysgolion cynradd, ysgolion cyfun a chlybiau, prosiectau a grwpiau ieuenctid ar draws y fwrdeistref.
Ei nod yw addysgu pobl ifanc am yr hyn i’w wneud mewn argyfwng a chodi ymwybyddiaeth o rifau ffôn y gwasanaethau brys fel 101 a gwasanaeth neges destun 999.
Meddai’r Prif Arolygydd Amanda Thomas, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad lansio:
“Mae ein swyddogion Nxt Gen wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc yng Ngwent.
“Trwy brosiectau fel hyn, gallwn greu cysylltiadau gwych gyda phobl ifanc, ac amlygu sut gall yr heddlu a’r gymuned gydweithio ac o bosibl ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o swyddogion a staff heddlu, a phersonél gwasanaethau brys eraill.”
Meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert:
“Roeddwn i’n arbennig o falch o fod yn bresennol yn lansiad y gêm. Mae’r gêm yn offeryn clyfar iawn a fydd yn cael ei defnyddio i addysgu plant a phobl ifanc am y gwahanol swyddogaethau y mae ein gwasanaethau brys yn eu cyflawni.
“Roeddwn i’n falch o weld y bobl ifanc yn chwarae’r gêm, ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gwestiynau am ein gwasanaethau brys a fyddai hefyd yn gwneud i rai oedolion feddwl.
“Mae gweithio mewn partneriaeth mor bwysig a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddod â’r gêm yn fyw.”
Meddai Swyddog Cymorth Cymunedol Nxt Gen, Deke Williams, a arweiniodd y prosiect:
“Mae’r prosiect wedi caniatáu i ni ddarparu cyngor diogelwch cymunedol mewn ffordd ddifyr a phleserus.
“Anogwyd dysgwyr i ddeall sut mae gwasanaethau brys, fel yr heddlu, yn ymateb i ddigwyddiadau, yr hanes y tu ôl iddyn nhw a sut gall ein hymddygiad o ddydd i ddydd effeithio ar y gwasanaethau hynny.
“Trwy gydol y prosiect, mae’r dysgwyr wedi rheoli pob cam o’r broses; o’r gwaith ymchwil cychwynnol a datblygiad y gêm i ddylunio a chynhyrchu gêm fwrdd Siren a gallant weld eu gwaith caled yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion ledled Caerffili bellach.”