Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:31 15/08/2022
Gweithredodd swyddogion o dîm troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gwent ddwy warant mewn cyfeiriadau yng Nghaerffili a Chaerdydd ddydd Mawrth 9 Awst.
Yn ystod Ymgyrch Adelaide gweithredodd swyddogion y gwarantau yn rhan o ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Yn ystod yr ymgyrch, arestiodd swyddogion ddau ddyn ar amheuaeth o amryw o droseddau cyffuriau, ac atafaelwyd cyffuriau dosbarth A a B, arian a ffonau symudol.
Yn ddiweddarach cyhuddwyd dyn 19 oed o Gaerffili o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cyhuddwyd dyn 19 oed o Gaerdydd o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A a meddu ar gyffuriau (dosbarth A a B) gyda bwriad o gyflenwi.
Ymddangosodd y ddau ddyn yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher 10 Awst a chawsant eu remandio nes eu hymddangosiad nesaf yn y llys ym mis Medi.
Meddai Cwnstabl Heddlu Rhys Jones, a arweiniodd yr ymgyrch:
"Rydyn ni wedi ymroi i amddiffyn pobl rhag cam-fanteisio a’r effeithiau dinistriol y gall cyffuriau anghyfreithlon eu cael ar ein cymunedau.
"Mae cefnogaeth y cyhoedd yn hollbwysig i’r gwaith hwn a gofynnaf yn daer ar bobl i roi gwybod i ni am unrhyw weithgareddau amheus neu anarferol yn eu hardal er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddelio cyffuriau yn eich ardal, ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”