Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:47 14/12/2022
Aeth ein swyddogion i gyfeiriad yn Heol Fawr, Caerffili tua 3.15pm ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr, yn dilyn adroddiadau am ymosodiad gan gi.
Cawsom ein galw i gyfeiriad yn Heol Fawr, Caerffili tua 3.15pm ar ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr, yn dilyn adroddiadau am ymosodiad gan gi.
Aeth swyddogion yno, gan gynnwys swyddogion arfau tanio wedi'u hyfforddi'n arbennig, ochr yn ochr â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae menyw 83 oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n bygwth bywyd ac mae dyn 55 oed wedi cael ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau. Mae’r fenyw yn dal yn yr ysbyty.
Cafodd y ci, croes rhwng XL Bwli mawr a Cane Corso, ei atafaelu gan swyddogion ac mae wedi cael ei ddifa. Nid oedd unrhyw anifeiliaid eraill yn rhan o'r ymosodiad.
Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus gan achosi anaf - dyn 20 oed, dyn 25 oed, dyn 31 oed, a menyw 28 oed, pob un ohonynt o ardal Caerffili. Maen nhw wedi cael eu rhyddhau dan fechnïaeth amodol.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Matthew Sedgebeer:
"Bydd swyddogion yn gwneud ymholiadau pellach wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.
"Mae'n bosibl y gwelwch chi lawer o weithgarwch gan yr heddlu yng Nghaerffili yn rhan o'r gwaith hwn, ond peidiwch â dychryn.
"Os oes gennych chi bryderon neu unrhyw wybodaeth am y ci hwn a'i ymddygiad yn y gorffennol, arhoswch i siarad â ni.
"Fel arall, ffoniwch ni ar 101, gan grybwyll rhif cofnod 2200407170. Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter hefyd. Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111."
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cael ei hysbysu am y digwyddiad hwn yn unol â'n gweithdrefnau arferol.