Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:55 08/02/2022
Mae aelod o’r cyhoedd a helpodd ddyn oedd wedi cael ei drywanu wedi ennill gwobr genedlaethol am ddewrder gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.
Cyflwynwyd Gwobr Dewrder y Cyhoedd i William Boulter, 22 oed o Gasnewydd, gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly. Mae gwobr dewrder Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn cydnabod aelodau’r cyhoedd am weithredoedd sy’n cefnogi’r heddlu wrth iddynt gynnal cyfraith a threfn.
Ar 14 Mehefin 2019, rhedodd Mr Boulter ar draws y ffordd i helpu dyn oedd yn dioddef ymosodiad gan ddyn gyda chyllell y tu allan i Ganolfan Gap, Stow Hill, Casnewydd. Cafodd y dioddefwr, a oedd yn 27 oed ar y pryd, ei drywanu sawl gwaith yn ystod yr ymosodiad.
Aeth Mr Boulter, 22 oed, ati i gynorthwyo’r dioddefwr i gael gofal meddygol gyda chymorth modurwr a oedd yn mynd heibio ar y pryd a yrrodd y dyn i’r ysbyty. Cyrhaeddodd swyddogion yn fuan wedyn a gallodd Mr Boulter ddweud wrthyn nhw pwy oedd yr ymosodwr.
Carcharwyd y dyn a oedd wedi ymosod ar y dioddefwr am 12 mlynedd ym mis Rhagfyr 2019.
Derbyniodd Mr Boulter wobr dewrder y cyhoedd yng Ngwobrau Heddlu Gwent ym mis Tachwedd 2021 hefyd.
Meddai Prif Gwnstabl Pam Kelly:
“Diolch i weithredoedd dewr William ac aelodau eraill y cyhoedd a ddaeth i helpu’r dioddefwr, llwyddwyd i achub bywyd. Gallai canlyniadau’r digwyddiad hwn fod wedi arwain at drasiedi yn hawdd iawn.
“Roedd yn fraint go iawn cyflwyno gwobr genedlaethol am ddewrder i William. Hoffwn ddiolch iddo am ei ddewrder a’i dosturi yn cynorthwyo’r dyn oedd wedi’i anafu a’i ymroddiad yn cefnogi’r ymchwiliad. Mae William yn ddyn ifanc arbennig iawn.”