Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn ymuno â heddluoedd eraill i atgoffa modurwyr am beryglon gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol.
Drwy gydol mis Chwefror, mae heddluoedd ledled y wlad yn cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael â phobl sy’n defnyddio eu ffôn wrth y llyw ac i addysgu gyrwyr.
Mae gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol yn un o’r ‘pump marwol’, sef pum prif achos anaf difrifol neu farwolaeth ar ein ffyrdd, gan ei fod yn lleihau amser ymateb ac yn tynnu sylw gyrwyr.
Gall modurwyr sy’n cael eu dal yn defnyddio ffôn symudol gael hyd at chwe phwynt ar eu trwydded a dirwyon o hyd at £200.
Meddai’r Prif Arolygydd Martyn Smith:
“Mae cadw’r ffyrdd ledled Gwent yn ddiogel yn flaenoriaeth i’n holl swyddogion, ond dylai hefyd fod yn flaenoriaeth i’n holl fodurwyr.
“Dim ond trwy gydweithio gallwn ni sicrhau bod ein cymunedau yn llefydd diogel i fyw a gweithio ynddyn nhw.
“Mae ein neges yn glir – mae gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol yn beryglus, mae’n rhoi bywydau gyrwyr, teithwyr a cherddwyr mewn perygl.”
Mae’r prif gyfranwyr eraill at ddamweiniau ar y ffyrdd yn cynnwys gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, goryrru, peidio â gwisgo gwregys a gyrru’n ddiofal.
Aeth y Prif Arolygydd Martyn Smith ymlaen i ddweud:
“Mae’r pump marwol yn gyfuniad peryglus, sy’n aml yn dod o ganlyniad i benderfyniadau gwael, a gallent arwain at ganlyniadau sy’n newid bywydau.
“Nid yw anwybyddu un o’r prif gyfranwyr hyn yn dderbyniol, mae angen i’r gyrwyr weithio gyda ni, cymryd gofal a thalu sylw wrth yrru.”
Yn ystod y mis nesaf, bydd swyddogion Heddlu Gwent yn cynnal gweithgareddau gorfodi ychwanegol i ganfod gyrwyr sy’n torri’r gyfraith, a chymryd camau cyflym i roi hysbysiadau cosb benodedig.
I ddysgu mwy am ddiogelwch ar y ffyrdd, ewch i: Diogelwch ar y ffyrdd | Heddlu Gwent