Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:44 03/02/2022
Yn fy mlog cyntaf yn 2022, rwyf eisiau crybwyll y gwaith rydym yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal a chyflwyno prosiect newydd y byddwn yn ei lansio gyda phartneriaeth Caerffili Saffach yng Nghoed-duon.
Yn ystod y mis diwethaf rydym wedi trefnu nifer o ymgyrchoedd i fynd i'r afael â hysbysiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol yng nghanol tref Coed-duon.
Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys cyflwyno gorchmynion gwahardd, mwy o batrolau yn y dref a gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno camau newydd sy'n atal yr anhrefn rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Yn ystod y penwythnosau diwethaf rydym wedi arestio dau o bobl (bachgen 17 oed a bachgen 15 oed ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus) ac rydym wedi cyflwyno gwaharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol i dri o bobl eraill yn dilyn hysbysiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson.
Mae'r gwaharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol hyn yn eu gwahardd nhw rhag mynd i mewn i'r dref oni bai bod oedolyn cyfrifol gyda nhw ac yn eu rhwystro nhw rhag ymgynnull mewn grwpiau o bedwar neu fwy. Os byddant yn torri'r waharddeb, gallant gael eu harestio.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid hefyd, gan gynnwys ysgolion, i gyflwyno camau i ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad sy'n cael effaith niweidiol ar ein cymuned (mae enghreifftiau'n cynnwys gwaith gyda'r prosiect ymyrryd REACH a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid).
Rydym wedi ymroi i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Gwent ac, er mwyn gwneud ein trefi'n llefydd saffach i fyw a gweithio ynddynt, byddwn yn parhau i gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn pobl sy'n achosi gofid a niwed yn ein cymunedau.
Rwyf yn falch o ddweud bod hysbysiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng ers y penllanw ym mis Hydref y llynedd ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Diolch am eich cymorth parhaus.
Ein prosiect Caerffili Saffach
Yr wythnos hon rydym yn lansio "Tref Saff", cynllun gan Caerffili Saffach i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a galluogi manwerthwyr lleol i riportio digwyddiadau a rhannu gwybodaeth am atal trosedd.
Gyda'r bwriad o wneud ein tref yn fwy diogel i drigolion a manwerthwyr fel ei gilydd, nod Tref Saff yw:
• lleihau / atal trosedd ac anhrefn yn lleol trwy waith pwrpasol
• lleihau ofn pobl o drosedd
• rhoi sylw i broblemau cysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
• creu cymdogaethau saffach
• meithrin ysbryd cymunedol
• gwella gwaith partner gyda grwpiau yn y gymuned
• helpu i adnabod ac atal troseddwyr trwy rwydwaith riportio
• gwella ansawdd bywyd a'r amgylchedd.
Pan fydd manwerthwyr yn ymrestru ar y cynllun, mae swyddogion dylunio er mwyn atal trosedd yn ymweld â nhw ac yn gweithio gyda nhw i awgrymu camau a allai wella diogelwch y siop ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd busnesau sy'n dangos diddordeb ac yn "addo" mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda ni a phartneriaeth Caerffili Saffach yn cael cynnig hyfforddiant gan ein tîm Dangos y Drws i Drosedd a chyfle i ddod yn "fan diogel" achrededig yn y dref.
Mae'r achrediad a'r hyfforddiant yn annog busnesau i ddeall agweddau ac ymddygiad annerbyniol tuag at fenywod a merched ac yn eu helpu nhw i wybod beth allan nhw ei wneud i helpu’r rhai sydd mewn angen.
Yna gall busnesau sy'n gweld unrhyw ymddygiad amhriodol roi cymorth ar unwaith i unrhyw un a all fod yn teimlo eu bod nhw mewn perygl cyn cysylltu â'r heddlu.
Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ar ein cyfrif Twitter @GPCaerphilly yn ystod yr wythnosau nesaf.