Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tîm ar ei newydd wedd
Rydyn ni wedi croesawu PC 2380 Anna Porter i’r tîm yn ddiweddar. PC Porter yw swyddog ward Parc Lansbury bellach, ac mae’n gweithio’n agos gyda’r Swyddog Cymorth Cymunedol 303 Sarah Barbour.
Daw PC Porter o’r tîm ymateb ym Medwas, ac felly mae’n gyfarwydd iawn â’r ardal ac yn aelod newydd gwych i’r tîm.
Gweithio mewn partneriaeth a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae gennym ni berthynas weithio agos gyda’n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n ein galluogi ni i ddarparu cymorth effeithiol a gweithredu mesurau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i breswylwyr.
Mae ein gwaith i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda’r awdurdod lleol yn enghraifft o hyn.
Yn ddiweddar, buon ni’n llwyddiannus gyda chais am Waharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn erbyn person ifanc a oedd, er gwaethaf sawl ymyrraeth gennym ni a’n partneriaid, yn parhau i ymwneud â digwyddiadau a oedd yn peri braw neu drallod i aelodau o’n cymuned.
Mae Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ein galluogi i wahardd unigolion rhag mynd i ardaloedd penodol neu ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o beri trallod i eraill. Os yw’r unigolyn yn torri’r amodau yma, yna bydd fy swyddogion yn eu harestio a’u rhoi gerbron y llys.
Wrth sôn am hynny, hoffwn ofyn i rieni a gwarcheidwaid sicrhau eu bod nhw’n gwybod lle mae eu plant, gyda phwy maen nhw, a beth maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw allan o’r tŷ.
Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymddwyn yn dda ac yn barchus, ond yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir am leiafrif, ac mae rhai rhieni wedi cael ymweliadau a llythyron annisgwyl gan fy swyddogion yn trafod ein pryderon am ymddygiad eu plentyn.
Apêl am wybodaeth – difrod i gerbyd y Gwasanaeth Tân yn ystod galwad i Barc Lansbury
Fis diwethaf (22 Ionawr), ymatebodd ein partneriaid yn y gwasanaethau brys, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i adroddiadau am dân sbwriel pwrpasol yn agos at barc sglefrio ym Mharc Lansbury.
Pan oedden nhw yn yr ardal, adroddwyd bod cerrig wedi’u taflu at gerbyd y criw, gan ddifrodi’r ffenest flaen.
Er na chafodd neb eu hanafu yn ystod y digwyddiad, mae hyn yn hollol annerbyniol a gallai fod wedi arwain at oedi’r criw rhag ymateb i ddigwyddiadau hanfodol.
Mae fy swyddogion yn parhau i ymchwilio. Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu ein hymholiadau, cysylltwch â ni drwy 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod canlynol: 22000127629.
Cefnogi ein cymuned
Ers dod i Fedwas, mae angerdd ein Swyddogion Cymorth Cymunedol wedi creu argraff enfawr arna i, wrth iddyn nhw barhau i feddwl am ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ein cymunedau.
O ddarparu gwersi cymorth cyntaf mewn ysgolion lleol, i gynnal digwyddiadau LHDTC+ misol mewn caffi lleol (er mwyn darparu gofod diogel lle gall pobl rannu eu syniadau a’u pryderon gyda swyddogion), mae digwyddiadau ymgysylltu diweddar wedi bod yn llwyddiannus.
Dilynwch @GPCaerphilly ar Twitter i glywed y diweddaraf am gymorthfeydd, digwyddiadau, a sesiynau galw heibio lleol rydyn ni’n eu cynnal yng Nghaerffili.
Cyrchoedd ben bore yn arwain at gyhuddiadau cyffuriau
Rydyn ni’n ymroddedig i fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, a dros y mis diwethaf arestiwyd deg o bobl ar amheuaeth o amrywiaeth o droseddau, gan gynnwys tyfu canabis ar raddfa fawr a chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Yn gynharach yr wythnos yma, ddydd Llun 21 Chwefror, cynhaliwyd cyfres o gyrchoedd ben bore ledled Gwent, gan arwain at gyhuddo saith dyn o gynllwynio i gyflenwi cocên.
Gweithiodd ein tîm troseddau difrifol a chyfundrefnol, swyddogion plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol, swyddogion ymateb a chymdogaeth a’n cwnstabliaid gwirfoddol gyda’i gilydd i weithredu’r gwarantau ledled Caerffili a Chasnewydd.
O ganlyniad, cafodd wyth o bobl eu cyhuddo o droseddau a’u cadw yn y ddalfa. Diolchaf yn ddiffuant i bawb oedd yn rhan o’r ymgyrch yma.
Yn aml, gwybodaeth gennych chi yw’r sbardun i’r ymgyrchoedd yma.
Mae enghreifftiau o bobl yn byw’n fwy moethus na’u gallu, neu gyfeiriadau’n cael llawer o ymwelwyr ar adegau od, yn gallu’n helpu ni i greu darlun gwell o weithgarwch amheus ledled Gwent.
Gofynnaf am eich cefnogaeth barhaol er mwyn i ni allu targedu ac amharu ar unrhyw un sy’n rhan o weithgarwch troseddol, a helpu’r rhai sy’n cael eu hecsbloetio.
Gallwch riportio unrhyw wybodaeth sydd gennych drwy 101, ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, neu’n ddienw drwy Crimestoppers ar-lein neu drwy 0800 555 111.
Ysbryd cymunedol yn ystod storm Eunice
Yn olaf, hoffwn achub ar y cyfle yma i ddiolch i swyddogion Heddlu Gwent, staff ein hawdurdodau lleol, a rhanddeiliaid allweddol am eu gwaith caled yn ystod y tywydd stormus diweddar.
Doedd cynnal gwasanaethau hanfodol wrth ddelio â gwyntoedd cyflym a thywydd gwlyb ddim yn hawdd, ond gwnaeth ein swyddogion, ein partneriaid a’n cymunedau waith gwych i ddiogelu a thawelu meddwl y cyhoedd drwy gydol y penwythnos.
Diolch.