Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom ein galw i gyfeiriad yn Dol-yr-Eos, Caerffili, tua 12.10am ddydd Sul 18 Hydref 2020 ar ôl i fenyw 43 oed gael ei darganfod yn farw yn y cyfeiriad.
Cyhoeddwyd yn ddiweddarach mai ei henw oedd Adell Cowan o Gaerffili ac mae ei theulu’n dal i gael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Arestiodd swyddogion ddyn, sy’n 43 oed yn awr, o ardal Caerffili ar amheuaeth o lofruddiaeth; mae wedi cael ei gyhuddo o’r drosedd hon yn awr.
Mae wedi cael ei remandio yn y ddalfa i ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener 11 Chwefror.