Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:43 04/02/2022
Rydym yn ymchwilio i hysbysiad o affräe yn Cardiff Road, Caerffili, tua 2.30pm ddydd Llun 10 Ionawr
Yn ôl pob sôn tarodd dyn - a ddisgrifir fel dyn gwyn, o faint main i ganolig, tua 5’7” o daldra, rhwng 30 a 40 oed a gyda gwallt byr brown - ddyn arall ar ei ben gyda photel ger tafarn Malcolm Uphill.
Cafodd y dioddefwr fân anaf i gefn ei ben a dywedwyd wrtho am fynd i’r ysbyty rhag ofn.
Rydym yn ymwybodol nad yw ansawdd y lluniau hyn yn dda iawn, ond hoffai swyddogion siarad â’r dyn hwn gan ei bod y bosibl bod ganddo wybodaeth a allai helpu ein hymholiadau.
Rydym yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys pobl â delweddau CCTV neu gamera car, gysylltu â ni.
Gall unrhyw dystion ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom gan grybwyll rhif cofnod 2200009865, gyda manylion.
Fel arall, gallwch gysylltu a Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.