Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth y gorchymyn i rym am 9.30pm dydd Mawrth 11 Ionawr a bydd yn weithredol tan 9.30pm dydd Iau 13 Ionawr.
Mae mewn grym yn yr ardal a ddangosir ar y map isod, sy'n cynnwys: High Street, Lôn Grafel, Gorsaf Bysys Coed-duon, Heol y Clogwyn, Parc Manwerthu Porth Coed-duon.
Ffynhonnell: Google Maps
Mae'r gorchymyn yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn neu'n debygol o aflonyddu ar aelodau'r cyhoedd, eu dychryn neu beri gofid iddynt.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.
Meddai Arolygydd Andrew Boucher: "Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i ni yn Heddlu Gwent
"Bydd ein swyddogion ar batrôl yn yr ardal ac yn edrych ar luniau CCTV i adnabod y bobl sy’n gyfrifol. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad sy'n achosi gofid neu niwed a byddwn yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
"Gofynnwn i rieni sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant bob amser, yn arbennig tra bydd y gorchymyn gwasgaru yn weithredol.”