Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:40 09/01/2022
Cawsom ein galw i Heol Caergaint, Beaufort, Glynebwy tua 5.55pm dydd Sadwrn 8 Ionawr ar ôl i ddyn, a oedd wedi bod yn gyrru beic cwad, gael ei ganfod yn ddiymateb gan aelod o’r cyhoedd ar y llwybr beiciau rhwng Beaufort a Nant-y-glo.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â phersonél o Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a chadarnhaodd meddyg o’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) bod dyn 25 oed o ardal Glynebwy wedi marw.
Mae ei deulu agosaf wedi cael eu hysbysu ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd ac mae adroddiad ynglŷn â’r farwolaeth wedi cael ei gyflwyno i’r crwner.
Er mwyn cynorthwyo’r crwner, rydym yn apelio ar unrhyw dystion, neu unrhyw un â lluniau CCTV neu gamera car yn Heol Caergaint rhwng 5pm a 6pm i gysylltu â ni, drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2200008080.