Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei threfnu gan Resolve, a bydd yn wythnos llawn digwyddiadau gyda lluoedd ledled y wlad yn ymuno a phartneriaid i dynnu sylw at effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol a phwysigrwydd ymgysylltu a’r cyhoedd ehangach am y rhan hollbwysig maen nhw’n ei chwarae i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Trwy gydol yr wythnos (18 – 24 Gorffennaf), mae swyddogion ledled Gwent yn cynnal amryw o ymgyrchoedd gyda phartneriaid sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc i ddangos yr effaith mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei gael ar bobl yng Ngwent.
Yn ystod y digwyddiadau, bydd swyddogion yn siarad â thrigolion ac ymwelwyr am wahanol ffurfiau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ei effaith ar ein cymdogaethau a sut i’w adnabod a’i riportio’n briodol - a’r cynlluniau plismona sy’n canolbwyntio ar broblem sydd gan Heddlu Gwent ar waith i roi sylw i broblemau penodol a nodwyd gan drigolion yn arolwg Ein Llais eleni.
Mae rhai o’r digwyddiadau’n cynnwys gweithdai ymwybyddiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda Dyfodol Cadarnhaol, sesiynau marcio beiciau, digwyddiad chwaraeon gyda thîm NXT GEN y llu, cymhorthfa lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a thanau bwriadol a sesiynau codi sbwriel i ddangos yr effaith niweidiol mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn ei gael ar ein cymunedau.
Meddai Prif Arolygydd Amanda Thomas:
“Mae gan bawb hawl i deimlo’n ddiogel, a dyna pam mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i ni yma yn Heddlu Gwent. Mae unrhyw ymddygiad sy’n dychryn trigolion neu’n eu rhoi nhw ac ymwelwyr mewn perygl yn gwbl annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef.
“Bob wythnos rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a gwasanaethau brys i roi mesurau ar waith i ddangos pwy sy’n gyfrifol am achosi anhrefn, ond hefyd i’w rwystro rhag digwydd yn y lle cyntaf.
“Mae ymgysylltu â’r gymuned a’n gwaith gydag ysgolion a phobl ifanc yn allweddol yn hyn o beth. Dim ond yr wythnos ddiwethaf, er enghraifft, aethom i ymweld ag ysgol yn Hengoed sydd wedi bod yn gweithio gyda’n tîm NXT GEN ar brosiect diogelwch yn y gymuned arloesol. Mae defnyddio Minecraft: Education Edition [link] i adeiladu cymuned ddigidol sy’n adlewyrchu eu cymuned nhw eu hunain yn eu hannog nhw i feddwl am ddiogelwch cymunedol, a sut maen nhw’n chwarae rhan fawr yn cyfrannu at fannau diogel ac iach. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni gyflwyno negeseuon atal trosedd allweddol hefyd.
“Wrth i wyliau’r haf agosáu, gofynnwn yn daer ar rieni i barhau i siarad â’u plant am y negeseuon rydym wedi bod yn eu cyflwyno yn ystod yr wythnos hon o ymwybyddiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel bod ein cymunedau’n parhau i chwarae eu rhan yn rhoi sylw i ymddygiad sy’n cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein trigolion, a riportio’r ymddygiad hwnnw.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, ffoniwch 101 neu ewch i un o’n digwyddiadau neu ein cymorthfeydd heddlu rheolaidd - lle gallwch gwrdd â’ch swyddogion lleol a siarad am yr hyn rydym yn ei wneud i roi sylw i’r problemau sy’n effeithio ar eich cymuned.”
*I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau mae ein timau plismona cymdogaeth ledled Gwent yn eu cynnal yr wythnos hon, dilynwch nhw ar Twitter:
@GPCaerphilly
@GPNewport
@GPBlaenauGwent
@GPMonmouthshire
@GPTorfaen