Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
22:32 21/07/2022
Aeth swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A467 ger Abertyleri tua 5.30pm dydd Iau 21 Gorffennaf ac maent yn apelio am wybodaeth – yn arbennig lluniau camera car – i gynorthwyo eu hymholiadau.
Rydym yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A467 yn y fynedfa i Ystâd Ddiwydiannol Glyndŵr ger Abertyleri tua 5.30pm dydd Iau 21 Gorffennaf.
Aeth swyddogion i leoliad y gwrthdrawiad a oedd rhwng beic modur a char - Kia Soul Tempest llwyd.
Aeth parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i’r lleoliad hefyd ac mae dyn 34 oed o ardal Abertyleri wedi cael ei gymryd i’r ysbyty i gael triniaeth.
Mae’r A467 o’r fynedfa i Ystâd Ddiwydiannol Glyndŵr at gylchfan Aberbîg yn dal ar gau i’r ddau gyfeiriad.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw fodurwyr gyda lluniau camera car a oedd yn defnyddio’r A467 ger y fynedfa i Ystâd Ddiwydiannol Glyndŵr rhwng 5pm a 5.30pm gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu rhif cofnod 220024443 gydag unrhyw fanylion.