Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, rydym yn lansio ail flog misol ar gyfer ardal blismona leol ddwyreiniol Heddlu Gwent.
Bydd y rhifyn hwn yn canolbwyntio ar Y Fenni.
Dros y 12 mis diwethaf, byddwch wedi gweld gweithgareddau newydd yn cael eu lansio i helpu i wneud Y Fenni yn fwy diogel. O fenter Strydoedd Saffach, yr ymgyrch 'dim ond' i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched a mwy o bresenoldeb tîm Dangos y Drws i Drosedd, mae llawer wedi bod yn digwydd.
Tîm plismona cymdogaeth Y Fenni
Mae ein timau plismona cymdogaeth yn Y Fenni wedi bod yn gwrando ar bryderon ein cymunedau; ceisio nodi y pethau sy'n bwysig neu sy'n achosi pryder i chi. Un o'r pryderon mae'r tîm wedi eu nodi yw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
O ymddygiad ymosodol, swnllyd neu ddifrïol i aflonyddwch cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl math o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math ohono.
Ers mis Ebrill eleni, mae'r tîm wedi arestio dros 12 o bobl am droseddau'n ymwneud â chyffuriau ac wedi cynnal pum gwarant dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn Y Fenni.
Yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau 21 Gorffennaf), cynhaliwyd gwarant yn yr ardal a arweiniodd at sicrhau bod mwy na £1,000 o gyffuriau dosbarth B yn cael ei atafaelu a £5,000 mewn arian parod.
Cafodd dau berson eu harestio ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B. Ers hynny maent wedi cael eu rhyddhau tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Boucher o dîm plismona cymdogaeth Sir Fynwy:
"Mae'r defnydd o gyffuriau a chyflenwi'n effeithio'n negyddol ar ansawdd bywyd trigolion ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymunedau, rwy'n gobeithio y bydd holl waith cadarnhaol diweddar fy nhimau yn tawelu meddyliau yn ein cymunedau o'n hymrwymiad i ddileu'r defnydd o gyffuriau a'u cyflenwi."
Yn dilyn adroddiadau o yfed alcohol dan oed a difrod troseddol mewn ardaloedd penodol yn Y Fenni, mae'r tîm wedi bod yn cynnal patrolau ar droed a rhai symudol yn rheolaidd, ac wedi cynyddu stopio a chwilio.
Yn ystod y tymor, bydd swyddogion hefyd yn ymweld â'r myfyrwyr yn eu hysgolion i egluro peryglon defnyddio alcohol a chyffuriau.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith tîm plismona cymdogaeth Y Fenni ar Twitter yma.
Ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae'r arolygydd a'i dîm hefyd wedi cynnal sawl ymgyrch ffyrdd yn ddiweddar, gan dargedu'r pump angheuol.
O ganlyniad i'n hymroddiad i ddiogelwch ar y ffyrdd, cafodd tri gyrrwr rybuddion ynglŷn â'u cyflymder a chyhoeddwyd pedwar tocyn am beidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru heb ofal dyladwy a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Dywedodd Cwnstabl yr heddlu Elliot Morgan:
"Rydym wedi ymrwymo i gynyddu diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd yng Ngwent.
"Dim ond un o'r ffyrdd yr ydym yn gweithredu i fynd i'r afael â'r mathau hyn o droseddau moduro yw gweithrediadau fel y rhain.
"Rwy'n gobeithio bod parhad y gweithrediadau hyn yn anfon neges glir bod gyrru'n anghyfrifol yn annerbyniol a byddwch yn cael eich trin yn llym.
"Cofiwch, mae gan bob un ohonom rôl i sicrhau diogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd - byddwn yn annog pob modurwr i yrru'n ofalus, yn gyfrifol ac o fewn terfynau'r gyfraith."
Mae ein swyddogion cymorth cymunedol yn Y Fenni yn treulio llawer o'u hamser yn siarad gyda'r gymuned i ddeall eu pryderon, patrolio ardaloedd penodol, a gweithio i nodi bod angen help.
Dywedodd CSO Florin Ionescu:
"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phryderon ein cymuned.
"O batrolau cynyddol i ymweld ag ysgolion lleol, rydym yn ceisio addysgu'r cyhoedd a'n cenedlaethau iau yn barhaus o'r effaith y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei gael ar ein cymuned."
Ein partneriaid a'n cymuned yn y Fenni
Nid ydym ar ein pennau ein hunain yn ein hymrwymiad i wneud y Fenni yn lle mwy dioel i bawb.
Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i gefnogi'r nod hwn, ac mae'r rhain yn cynnwys: Cyngor Sir Fynwy, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Gwasanaethau Allgymorth a gwirfoddolwyr di-ri.
Yn olaf, hoffai ein tîm plismona cymdogaeth ddiolch i'r gymuned am bopeth maen nhw'n ei wneud i helpu i wneud Y Fenni yn lle mwy diogel i bawb.
Drwy godi eich pryderon a rhoi gwybod am unrhyw weithgareddau troseddol neu ymddygiad amheus i ni, gallwn flaenoriaethu eich meysydd sy'n peri pryder a sefydlu gweithrediadau aml-asiantaeth i fynd i'r afael â throseddu.