Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:10 15/07/2022
Bydd y gorchymyn 48 awr, a gyhoeddwyd o ganlyniad i adroddiadau am ymddygiad afreolus yng nghanol y dref, mewn grym o 5pm heno tan 5pm dydd Sul 17 Gorffennaf.
Mae mewn grym yn yr ardal a ddangosir ar y map isod, sy'n cynnwys: High Street, Market Place, yr orsaf bysus a Pharc Manwerthu Porth Coed-duon.
Mae mewn grym yn yr ardal a ddangosir ar y map isod, sy'n cynnwys: High Street, Market Place, yr orsaf bysus a Pharc Manwerthu Porth Coed-duon.
Mae'r gorchymyn yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn neu'n debygol o aflonyddu ar aelodau'r cyhoedd, eu dychryn neu beri gofid iddynt.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.
Meddai Arolygydd Oliver Petty:
“Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddwn yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n achosi anhrefn a niwed yn ein cymunedau.
“Cyn yr hyn a ddisgwylir i fod yn benwythnos twym iawn, rydym yn gofyn i rieni sicrhau eu bod yn gwybod lle mae eu plant trwy'r amser, yn arbennig tra bydd y gorchymyn gwasgaru mewn grym.
"Os gwelwch chi ni o gwmpas canol y dref dros y penwythnos ac os oes gennych chi unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod, arhoswch i siarad gyda ni.
"Fal arall gallwch riportio pryderon trwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter."