Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu wedi creu partneriaeth gydag Ysgol Gynradd Derwendeg yn Hengoed i ddefnyddio dull newydd o ddysgu a hyrwyddo diogelwch yn y gymuned – trwy ddefnyddio Minecraft: Education Edition.
Yn rhan o’r cynllun peilot addysgol, mae disgyblion yn yr ysgol yn adeiladu byd digidol creadigol sy’n adlewyrchu eu cymuned eu hunain, gan gynnwys tirnodau lleol fel eu hysgol gynradd a maes chwarae.
Canlyniad hyn fydd byd ar-lein cwbl ryngweithiol a diogel lle gall chwaraewyr/dysgwyr ryngweithio gyda chymeriadau na ellir eu chwarae (NPCs) – sydd wedi cael eu creu gan swyddogion cymorth cymunedol (SCC) Heddlu Gwent - i ddysgu mwy am bethau fel cadw’n ddiogel ar-lein, sut i riportio trosedd ac adnabod arwyddion cam-fanteisio llinellau cyffuriau.
Mae disgyblion wedi defnyddio gwybodaeth a ddysgwyd yn eu gwersi mathemateg i adeiladu adeiladau wrth raddfa, wedi dysgu codio trefniant goleuadau ar gyfer coridorau eu hysgol ac, yn ystod gwersi, wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau am ddiogelwch yn y gymuned.
Trwy eu gwaith yn sefydlu’r prosiect, swyddogion NXT Gen Heddlu Gwent, SCC Alex Donne a SCC Deke Williams, yw’r aelodau staff heddlu cyntaf yng Nghymru i gael achrediad gan Hwb a thîm Minecraft: Education Edition yn rhan o’u rhaglen addysg ar gyfer Cymru.
Meddai SCC Alex Donne:
“Mae’r hyfforddiant, a ddatblygwyd gan Hwb a thîm Minecraft: Education Edition, wedi ein galluogi ni i ddeall pŵer a photensial dysgu seiliedig ar gemau yn well, er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
“Trwy weithio gydag arbenigwyr ar bynciau, rydym wedi gallu defnyddio Minecraft: Education Edition i adeiladu byd digidol sy’n ysbrydoledig, diogel ac addysgol.
“Trwy ddefnyddio technoleg fel hyn, gallwn feithrin cysylltiadau gwych gyda phobl ifanc ledled Gwent, a dangos sut gall yr heddlu a’r gymuned gydweithio i wella diogelwch yn ein cymdogaethau.
“Mae’r prosiect wedi ein galluogi ni i ddarparu cyngor ar ddiogelwch yn y gymuned mewn ffordd ddifyr, llawn hwyl – rhywbeth rydym yn gobeithio bydd dysgwyr Ysgol Gynradd Derwendeg yn ei gofio.
“Trwy gydol y prosiect mae dysgwyr wedi cael eu hannog i ymfalchïo yn eu cymuned, meddwl am sut y gellid gwneud eu strydoedd yn fwy diogel a siarad am unrhyw bryderon sydd gan eu cymdogion.”
Roedd Lynsey Wangiel, Pennaeth Ysgol Gynradd Derwendeg, a Louise Jones, athro yn yr ysgol, yn llawn canmoliaeth i’r prosiect:
“Rydym wedi bod wrth ein boddau yn gweithio gyda Heddlu Gwent yn rhan o’r prosiect cyffrous ac arloesol hwn.
“Mae ein dysgwyr ym mlwyddyn chwech wedi ymgysylltu’n llwyr gyda’r prosiect wrth ymdrin â phwnc y tymor hwn (‘Sut gallwn ni gadw ein cymuned yn hapus, iach a diogel?'), gan ganolbwyntio ar eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau fel aelodau o’r gymuned leol.
“Mae’r prosiect wedi galluogi dysgwyr i ddatblygu ym mhedwar diben Cwricwlwm Cymru ac mae wedi cyflawni llawer o’r datganiadau o’r hyn sydd o bwys ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.”
Pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau, y gobaith yw y bydd Minecraft: Education Edition ar gael i dros 100 o ysgolion Gwent, gan adeiladu cymuned ar-lein sy’n dysgu, rhwydweithio a chefnogi.
Meddai Sarah Snowdon, Rheolwr Rhaglen Ddysgu Hwb Minecraft:
“Mae’n wych gweld sut mae’n bosibl dod â thechnoleg, cymuned a phlismona at ei gilydd a sut maen nhw’n dod yn fyw mewn ffordd wirioneddol berthnasol er budd cymaint o ddysgwyr ac oedolion.
“Mae meddwl bod Minecraft: Education Edition a phobl ifanc creadigol yn gallu newid safbwyntiau ynglŷn â sut mae plismona a chymuned yn rhannu’r un amcanion ac uchelgeisiau yn anhygoel o bwerus!”
Mae tîm NXT GEN Heddlu Gwent yn gweithio gydag ysgolion ledled Gwent ac yn rheoli mentrau cadetiaid yr heddlu a Heddlu Bach y llu. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y tîm, dilynwch nhw ar Twitter: https://twitter.com/GPNxtGen.