Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom adroddiad am ymosodiad ar Cambrian Road, Casnewydd tua 2.40am ddydd Mawrth 19 Gorffennaf.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac aethpwyd â dyn 22 oed o ardal Casnewydd i’r ysbyty i gael triniaeth.
Credir bod ei anafiadau’n ddifrifol ond mae mewn cyflwr sefydlog.
Arestiwyd dyn 18 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o ymosodiad ac yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o adran 18 – anafu bwriadol – a’i remandio i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd.
Mae ymholiadau’n parhau a gall unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau CCTV neu gamera car, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2200241015.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda manylion.