Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithredodd swyddogion o dîm troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gwent warant mewn cyfeiriad yn Nhredegar ddydd Llun ac arestiwyd dyn 20 oed o Dredegar ar amheuaeth o’r troseddau canlynol:
Cafodd ei gyhuddo o’r troseddau hyn yn ddiweddarach ac ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher 13 Gorffennaf.
Yn ystod y cyrch, atafaelodd swyddogion gyffuriau dosbarth A (crac cocên) a dosbarth B (canabis).
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Rob Jenkins:
"Mae’r warant yn Nhredegar yr wythnos hon, lle atafaelodd swyddogion swmp o gyffuriau anghyfreithlon, yn dangos ein bod wedi ymroi yn barhaus i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau niweidiol cyffuriau anghyfreithlon.
"Mae cyflenwi cyffuriau o’r fath yn gallu cael effaith hynod o ddinistriol ar ein cymunedau ac ni fydd yn cael ei oddef gan Heddlu Gwent.
“Mae cefnogaeth y gymuned leol yn hollbwysig i’r gwaith hwn a hoffwn annog pobl i roi gwybod i ni am unrhyw weithgarwch amheus neu anarferol yn eu hardal er mwyn i ni weithredu.
“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am gyflenwi neu ddefnyddio cyffuriau yn eich cymuned, ffoniwch ni ar 101, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
"Fel arall, gallwch anfon neges uniongyrchol gyda gwybodaeth at dudalennau Facebook neu Twitter Heddlu Gwent.”