Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:36 01/07/2022
Mae Heddlu Gwent wedi canfod ffatri ganabis fasnachol yn Aberbargod y credir bod oddeutu 1,000 o blanhigion yno.
Ymwelodd swyddogion â’r unedau masnachol tua 1.40pm ddydd Mercher 29 Mehefin ar ôl chwiliad o’r ardal, a chanfuwyd ffatri raddfa fawr dros ddau lawr.
Credir bod y ffatri’n cynnwys dros 1,000 o blanhigion, o aeddfedrwydd amrywiol, ac amcangyfrifir bod y gwerth stryd yn £500,000.
Ynysodd swyddogion yr ardal ar gyfer yr heddlu, ac unwaith y cafwyd cadarnhad bod yr ardal yn ddiogel, aethon nhw ati i ddatgymalu’r ffatri.
Meddai Lysha Thompson, Arolygydd Plismona Cymdogaeth Gogledd Caerffili:
“Mae ein swyddogion wedi chwilio’r eiddo ac wedi tarfu ar ymgyrch fasnachol fawr o dyfu canabis yng Ngwent.
“Mae ein hymchwiliad er mwyn darganfod y rhai sy’n gyfrifol yn mynd yn ei blaen, ac mae’n bosib y byddwch yn gweld mwy o’n swyddogion yn yr ardal wrth i ni gyflawni ein hymholiadau. Os oes gennych unrhyw wybodaeth rydych chi’n meddwl allai helpu, neu os oes gennych unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod, cofiwch stopio i siarad gyda’n swyddogion.
“Does dim lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas, a bydd Heddlu Gwent yn parhau i gynnal ymgyrchoedd - fel yr un yma yn Aberbargod - i dargedu unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn cyflenwi cyffuriau rheoledig.”
Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yma i gysylltu â Heddlu Gwent drwy 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 22*217306.
Gallwch gysylltu â’r heddlu drwy’r cyfryngau cymdeithasol hefyd, ar Facebook a Twitter, a gallwch adrodd am unrhyw wybodaeth yn ddienw i Crimestoppers drwy 0800 555 111.