Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu bachgen 15 oed o Bont-y-pŵl, a fu farw mewn chwarel, wedi talu teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel bachgen ‘poblogaidd’ a ‘hapus’ yr oedd ‘pawb yn ei garu’.
Galwyd swyddogion i Heol Limekiln tua 6.30pm nos Fercher 6 Gorffennaf ar ôl adroddiadau bod bachgen a merch 14 oed wedi cwympo mewn chwarel.
Cyhoeddwyd bod y bachgen wedi marw yn y fan a’r lle gan barafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Gellir enwi’r bachgen bellach fel Myron Davies; mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae ei deulu hefyd wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol iddo:
“Fe gollodd ein mab, Myron Davies, ei fywyd yn drasig nos Fercher 6 Gorffennaf am tua 6.30pm. Roedd yn fab i fi, Sarah Davies, ac yn fab i fy mhartner Paul Jeffries. Roedd hefyd yn frawd i Jasmine Jeffries.
“Roedd yn nai, yn ŵyr ac yn gefnder hyfryd, ac roedd pawb yn ei garu.
“Roedd ein mab, Myron, yn mynd i Ysgol Abersychan, roedd yn fachgen poblogaidd ac roedd yr athrawon a’r disgyblion yn hoff ohono.
“Roedd e’n fachgen hapus; roedd gwên ar ei wyneb bob amser. Byddai’n cael ei weld yn aml yn reidio ar ddwy olwyn gan y gymuned, ac roedd wrth ei fodd yn chwarae gemau ar-lein gyda theulu a ffrindiau ar yr Xbox a’r PlayStation.
“Bydd ei holl ffrindiau a’i deulu’n gweld ei eisiau.
“Fel y gallwch ddychmygu, fel ei deulu rydyn ni wedi torri’n calonnau, ac mae ei holl ffrindiau wedi’u llorio, wrth i ni geisio dod drwyddi bob dydd ers clywed y newyddion torcalonnus yma.
“Mae’n ddirgelwch beth ddigwyddodd y diwrnod trasig yma. Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am beth ddigwyddodd, dewch i ddweud wrthym ni. Fel mam, mae’n rhaid i fi wybod beth ddigwyddodd i fy mab.
“Hoffen ni hefyd ddiolch i bawb am eu negeseuon caredig a’u cymorth yn y cyfnod torcalonnus yma.”
Mae adroddiad wedi’i gyflwyno i’r crwner mewn perthynas â’i farwolaeth ac mae ymholiadau’n mynd rhagddynt.
Cafodd y ferch o ardal Blaenafon anafiadau difrifol ac aeth Ambiwlans Awyr Cymru â hi i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd i gael triniaeth; mae hi’n dal i fod mewn cyflwr difrifol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 2200225719, neu anfon neges uniongyrchol aton ni drwy Facebook neu Twitter.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddi-enw drwy 0800 555 111.