Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dwy fenyw a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Heol Fochriw wedi talu teyrnged iddynt, gan eu disgrifio fel ‘cariadus’ a ‘hapus’.
Aeth swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng Citroen C3 glas a Ford Ranger gwyn tua 10.15am dydd Mawrth 19 Gorffennaf.
Aeth parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yno hefyd a chadarnhau bod dwy fenyw, 79 oed a 30 oed, wedi marw yn y fan a’r lle.
Gellir cyhoeddi yn awr mai Denise Hughes a Justine Hughes oedden nhw; mae eu teulu agosaf yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r teulu wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol i’r ddwy fenyw:
“Cafodd Denise ei chymryd gennym ni yn drasig. Roedd hi’n wraig, mam, mam-gu a hen fam-gu hyfryd ac roedd pawb yn ei haddoli. Roedd hi’n llawn cariad ac roedd pobl yn ei charu hi. Roedd hi bob amser yn barod i helpu unrhyw un. Roedd pob un ohonom ni’n ei gweld hi fel y penteulu.
“All geiriau ddim mynegi’r boen rydyn ni’n ei deimlo ond mae cefnogaeth teulu a ffrindiau yn gymorth i ni. Bydd colled fawr ar ei hôl.
“Justine, menyw mor ifanc a hapus, daeth ei bywyd ifanc i ben yn drychinebus o gynnar.
“Bywyd a oedd yn addo cymaint ond a ddaeth i ben mewn ffordd mor drasig. Mam, chwaer, merch, wyres a nith gariadus a roddodd gymaint o gariad ac roedd hi’n ei dderbyn.
“Mam Megan a Rowan, byddan nhw’n tyfu i fyny yn gwybod mor garedig, hapus a chariadus oedd eu mam. Fyddan nhw byth yn cael anghofio.
“Hoffem ddiolch i bawb yn y chwarel frig a helpodd ac a oedd mor garedig, aelodau’r cyhoedd a arhosodd a cheisio helpu, ac i’r holl wasanaethau brys am eu cymorth.
“Gofynnwn i chi barchu ein preifatrwydd fel teulu ar yr adeg hon.”
Aethpwyd a bachgen tair oed a oedd yn teithio yn y Citroen i’r ysbyty gyda mân anafiadau ac mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Aethpwyd â dyn 22 oed a oedd yn y Ford Ranger i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac mae’n dal yno mewn cyflwr sefydlog.
Mae ymholiadau’n parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw un a gwybodaeth, gan gynnwys pobl gyda lluniau CCTV neu gamera car, neu unrhyw fodurwyr a oedd yn Heol Fochriw rhwng 09:45 a 10:15 gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol at gyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu rhif cofnod 2200241300.