Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:52 10/07/2022
Cawsom alwadau yn dweud bod cerddoriaeth uchel i’w glywed yn dod o Gwm Gwyddon, Abercarn, yn ystod oriau mân y bore, dydd Sul 10 Gorffennaf.
Mae swyddogion yno ar hyn o bryd, yn siarad â’r bobl ar y safle.
Meddai Uwch-arolygydd Vicki Townsend:
"Yn unol â grymoedd cyfredol, ac i sicrhau diogelwch pobl sy’n mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth didrwydded, a phobl o gwmpas, gall swyddogion gau’r digwyddiad i’w atal rhag mynd yn fwy, atafaelu offer ac erlyn trefnwyr.
"Rydyn ni wedi cyflwyno hysbysiad adran 63 i’r bobl yn yr ardal, yn dweud wrthyn nhw am adael.
"Mae rêfs yn gallu tarfu’n ddifrifol ar drigolion cyfagos, maen nhw’n gallu bod yn beryglus i bobl sy’n bresennol ynddynt ac ni fyddant yn cael eu goddef.
"Wrth i’n swyddogion barhau i ymdrin â’r digwyddiad, ac wrth i bobl adael y safle, rydyn ni’n gofyn i’r gymuned ehangach osgoi’r ardal ble y bo’n bosibl er mwyn osgoi gormod o gynnydd o ran traffig."
Digwyddiadau cerddoriaeth didrwydded/rêfs | adnabod yr arwyddion
Mae rêf, sydd hefyd yn cael ei alw’n ddigwyddiad cerddoriaeth didrwydded, yn cyfeirio at grŵp mawr o bobl yn gosod system sain mewn lleoliad i chwarae cerddoriaeth uchel am gyfnod estynedig o amser.
Mae llawer o arwyddion cyffredin sy’n awgrymu efallai bod rêf yn digwydd.
Mae’r rhain yn cynnwys: cynnydd anarferol mewn traffig ar y ffyrdd; cerbydau’n cario offer sain a thyrfaoedd o bobl yn ymgasglu’n hwyr y nos yn ymyl warysau, ardaloedd agored neu adeiladau gwag.
Efallai y byddwch yn sylwi ar negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol hefyd yn hysbysebu rêf a’i leoliad posibl.
Os sylwch chi ar unrhyw rai o’r arwyddion hyn, neu unrhyw weithgarwch anarferol arall, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl drwy ffonio 101, 999 mewn argyfwng, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Fel arall gallwch anfon neges uniongyrchol at ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Facebook neu Twitter.
Dylai unrhyw un sydd am gynnal digwyddiad cerddoriaeth gael trwydded adloniant wedi’i reoleiddio gan eu hawdurdod lleol.
Gall arwyddion bod rêf yn digwydd gynnwys:
• posteri neu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn hysbysebu ‘rêf’
• cloeon a chadwyni ar gaeau a thir preifat wedi cael eu torri
• cynnydd anarferol o ran traffig - h.y. llawer o geir ar ffyrdd tawel/gweledig
• pobl yn gosod offer sain a phebyll mawr
• pobl yn llogi a chludo generaduron pŵer i dir/lleoliadau gwledig
• gwrychoedd wedi cael eu sathru
• cerddoriaeth uchel a gwiriadau sain mewn lleoliadau lle na fyddech yn eu disgwyl