Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar yr M4 rhwng cyffordd 24 a 25 tua 7.30am fore Sul 3 Gorffennaf.
Aeth swyddogion i olygfa’r gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys fan wen a Land Rover gwyrdd.
Roedd parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn bresennol hefyd ac aed â dyn 67 oed o Gasnewydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd, am driniaeth ac mae mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd dyn 37 oed o Aberpennar ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac fe gafodd ei ryddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â ni.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad neu unrhyw fodurwyr â lluniau dashcam a oedd yn defnyddio'r M4 rhwng 7.30am ac 8.00am a rhwng cyffordd 24 a 25 i gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu cyfeirnod log 2200221526 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.