Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:22 22/07/2022
Cawsom alwad yn riportio difrod troseddol a thân mewn cynhwysydd storio yng nghaeau pêl-droed Britannia ar Heol Bedwellte, Cefn Fforest, tua 2.10pm ddydd Iau 21 Gorffennaf.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â swyddogion tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i gynorthwyo i ddiogelu’r cyhoedd.
Yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydyn ni wedi lansio ymchwiliad llosgi bwriadol gan y bernir bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol.
Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i siarad â ni, yn arbennig pobl gyda lluniau CCTV o’r ardal rhwng 1.45pm a 2.15pm brynhawn dydd Iau.
Gall unrhyw un â manylion ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2200244141.
Fel arall gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.