Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dewch i weld yr adran cŵn yn arddangos eu gwaith, yr uned arfau, y tîm trefn gyhoeddus a mwy yn yr ardal arddangos.
Dangoswch eich doniau yn yr her sgiliau pêl-droed neu darganfyddwch eich Mo Farrah mewnol drwy gystadlu yn erbyn camera cyflymder GoSafe.
Os oes angen seibiant arnoch chi o’r rhai ifanc, beth am eu 'harestio' fel eu bod yn gallu treulio ychydig o amser yng nghell y ddalfa...?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes plismona, bydd ein tîm recriwtio ar gael drwy'r dydd am sgwrs yn yr ardal recriwtio a gyrfaoedd.
Cipolwg bach yn unig yw hwn o'r hyn fydd ar gael, felly beth am ddod draw i weld drosoch eich hun?
Rydym wedi derbyn llawer o gwestiynau am y digwyddiad, ac mae’r atebion i’w gweld isod:
Lleoliad, dyddiad ac amser
Hen bencadlys yr heddlu, Croesyceiliog, Cwmbrân, NP44 2XJ.
Dydd Sul 3 Gorffennaf, 9am i 5pm.
Parcio i'r anabl
Mae parcio i'r anabl ar gael ar y safle, gallwch ei gyrraedd gyferbyn â'r Discount Pram Centre a bydd angen i chi ddangos bathodyn glas. Bydd angen i chi gymryd y troad o'r gylchfan y tu allan i'r pencadlys ar yr A4042.
Parcio
Rydym yn annog pob ymwelydd i ddefnyddio'r gwasanaeth parcio a chludo am ddim. Mae hwn yn gweithredu o arhosfa bws A1, y tu allan i Fanc Lloyds yn y brif orsaf fysiau, yng nghanol tref Cwmbrân. Mae digon o feysydd parcio aml-lawr o amgylch canol y dref.
Cyfyngiadau parcio
Bydd Gorchymyn Rheoleiddio Dros Dro mewn grym ar gyfer nifer o ffyrdd o gwmpas y lleoliad a byddant yn cael eu dangos yn glir gyda chonau. Mae parcio yn yr ardaloedd hyn yn erbyn y gyfraith a bydd patrolau’n cael eu cynnal, a byddwn yn cymryd camau gorfodi. Byddem yn annog pawb sydd am ymweld â’r digwyddiad i ddefnyddio ein gwasanaeth parcio a theithio.
Mynediad
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac nid oes angen tocynnau.
Elusen
Ein dewis elusen eleni yw 2Wish. Bydd bwcedi ar gyfer eich cyfraniadau ar gael o amgylch y lleoliad ac ar y gwasanaeth parcio a chludo. Galwch heibio am sgwrs gyda nhw ar eu stondin lle gallant ddweud wrthych chi am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud yn cefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth person ifanc.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Tyrpeg ar gau o'r troad i Ffordd Llanyrafon (byddwch yn dal i allu cael mynediad i Ffordd Llanyrafon o gylchfan yr A4042), i lawr i droad Plantation Drive.
Lluniaeth
Bydd gwerthwyr bwyd yn darparu bwyd poeth ac oer drwy'r dydd, gan gynnwys stondin hufen iâ. Bydd canran o'r enillion yn cael ei rhoi i 2Wish.
Cŵn
Gan fod rhan fawr o'r digwyddiad yn cymryd rhan ar dir yr ysgol ac y bydd cŵn gwaith yn bresennol yn y digwyddiad, ni chaniateir cŵn.
Alcohol
Ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad teuluol hwn.
Rydym am i bawb fwynhau'r diwrnod, gan gynnwys y rhai sy'n byw o amgylch y lleoliad. Gofynnwn i ymwelwyr fod yn feddylgar o drigolion cyfagos a pharcio'n gyfreithlon ac yn ystyriol.
Rydym yn annog pawb i ddefnyddio'r gwasanaeth parcio a chludo am ddim.