Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n ymwybodol o brotest sydd wedi cael ei threfnu ar y rhwydwaith ffyrdd rhwng 7am a 7pm ddydd Llun 4 Gorffennaf.
Mae trefnwyr wedi awgrymu eu bod yn bwriadu rhwystro Pont Tywysog Cymru, a bydd y brotest yn dechrau ar yr M4 ger gwasanaethau Magwyr, cyffordd 23A tua’r dwyrain a chyffordd 20 yr M5 tua’r gorllewin.
Dywed Prif Uwch-arolygydd Tom Harding, sy’n arwain yr ymgyrch blismona:
“Mae Heddlu Gwent a Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn cydweithio gyda lluoedd cyfagos ac asiantaethau partner i sicrhau bod gwasanaethau brys a chritigol yn parhau, ac i leihau unrhyw darfu ar ddefnyddwyr y ffyrdd a chymunedau lleol. Fodd bynnag, rydyn ni’n paratoi ar gyfer tarfu difrifol trwy gydol y dydd.
“Hoffwn annog gyrwyr i ail ystyried eu siwrnai, ystyried gweithio gartref ac osgoi’r ardal lle bynnag y bo’n bosibl.
“Rhaid cydbwyso’r hawl i brotestio dan gyfraith y DU gyda hawliau’r gymuned ehangach a all gael ei heffeithio. Bydd gennym ni swyddogion a chefnogaeth ychwanegol ddydd Llun i sicrhau bod y brotest yn cael ei chynnal yn unol â’r gyfraith.”