Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hoffwn ddiolch i'n cymunedau am y gefnogaeth wych y maent wedi'i dangos i'w swyddogion cymdogaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi wynebu rhai heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen ac rydym yn ddiolchgar am y ffordd y gwnaeth y cyhoedd ofalu am ei gilydd yn ystod y pandemig, am barhau i rannu gwybodaeth hanfodol am droseddu ac anhrefn ac am gymryd rhan mewn cyfarfodydd cymunedol a grwpiau gwirfoddol – mae hyn i gyd yn cyfrannu'n helaeth at wella diogelwch a gwneud ein hardal yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo.
Bydd yr Arolygydd Oliver Petty yn fy olynu, sy'n ymuno â ni yn ei rôl arolygydd gyntaf ar ôl gweithio ym Mwrdeistref Caerffili am y rhan fwyaf o'i wasanaeth. Dymunaf bob lwc iddo yn ei rôl newydd.
Ond cyn hynny, hoffwn roi rhywfaint o’r wybodaeth ddiweddaraf am rywfaint o'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn ddiweddar a'r prosiectau sydd gennym ar y gweill dros yr haf.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol |codi ymwybyddiaeth a chadw ein cymunedau'n ddiogel
Nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol byth yn dderbyniol: mae'n cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd y rhai sy'n byw yn yr ardal ac ni fydd Heddlu Gwent yn ei oddef.
Yn ystod wythnosau olaf y gwanwyn, gwelsom gynnydd mewn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Nhrecelyn a Crosskeys – yn enwedig ger y gorsafoedd trenau.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a phartneriaid diogelwch cymunedol i nodi'r rhai sy'n gyfrifol, wedi cynyddu patrolau mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac, yn gadarnhaol, wedi gweld gostyngiad mewn adroddiadau dros y mis diwethaf.
Rydym yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn nifer o ffyrdd – o arestio'r rhai yr ydym yn amau eu bod wedi cyflawni troseddau trefn gyhoeddus i roi gwaharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol; rydym yn gweithio gyda phartneriaid allgymorth ieuenctid i ymgysylltu â phobl ifanc ac yn pwysleisio wrthynt yr effaith y gall eu gweithredoedd ei chael ar eu cymdogion a mwy – ac yn parhau i weithio gydag ysgolion lleol a'n partneriaid Trefi Diogel i gynyddu ymwybyddiaeth a diogelwch.
Bydd y gwaith hwn gydag ysgolion a phartneriaid lleol yn parhau yn ystod y misoedd nesaf ac, yn ystod mis Gorffennaf, byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol wythnos ymwybyddiaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol (18 – 24 Gorffennaf), gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon a sesiwn agored gyda'n hadran gŵn a'n tîm plismona ffyrdd – lle gall y cyhoedd ddysgu mwy am blismona.
Cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter (@GPCaerphilly) am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn.
Mynd i'r afael â throseddau caffael fel dwyn a byrgleriaeth
Oherwydd rhywfaint o waith rhagweithiol gwych gan dimau lleol, rhai ymchwiliadau hanfodol a gweithgarwch ataliol, mae adroddiadau am droseddau caffael fel byrgleriaeth wedi gostwng yn sylweddol eleni.
Er gwaethaf hyn, gwelsom nifer o fyrgleriaethau'n cael eu hadrodd mewn safleoedd masnachol yn Crosskeys rhwng Ionawr 22 a Mawrth 22, lle cafodd tanwydd ac eiddo personol y cyflogai eu dwyn. Arweiniodd eich swyddogion lleol ymchwiliad trylwyr i’r lladradau, gan ddefnyddio chwiliadau ardal, ymgysylltu â'r gymuned ac asedau dirgel i lywio eu gwaith.
Arestiwyd dyn 29 oed o Crosskeys ar amheuaeth o fyrgleriaeth yn dilyn y gwaith hwn ac fe'i dedfrydwyd yn ddiweddarach i chwe mis o garchar a rhoddwyd gorchymyn ymddygiad troseddol iddo, sy'n nodi nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys pa rannau o’r fwrdeistref y caiff fynd iddynt, a fydd yn dod i rym pan fydd yn cael ei ryddhau o'r carchar.
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith i fynd i'r afael â throseddau caffael yng Ngwent, ac am wybodaeth ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gwent/ardaloedd/ymgyrchoedd/ymgyrchoedd/2021/we-dont-buy-crime/
Gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru | tanau gwair
Wrth i'r tywydd cynhesach barhau, rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y gwasanaethau brys yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (SWFRS) i ymgysylltu â chymunedau lleol am y risgiau sy'n gysylltiedig â thanau gwair.
Rydym yn byw mewn rhan brydferth o Went, wedi'i hamgylchynu gan wyrddni, ond weithiau gall y tywydd cynhesach a misoedd yr haf weld cynnydd mewn tanau gwair a adroddir.
P'un ai y dechreuwyd nhw’n ddamweiniol (drwy beidio â diffodd barbeciw/tanau gwersyll yn iawn) neu'n fwriadol, gallant ledaenu'n gyflym a pheri risgiau i'r amgylchedd a bywyd gwyllt cyfagos. Dyna pam yr ydym yn gweithio gyda SWFRS i gynnal patrolau mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn flaenorol gan danau gwair, a chyflwyno gwersi mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at beryglon cynnau tân.
Pwyso stop | atal digwyddiadau cerddoriaeth didrwydded (raves)
Rwyf wedi bod yn gweithio'n ddiweddar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i roi mesurau ar waith i atal digwyddiadau cerddoriaeth didrwydded/raves niweidiol yn y fwrdeistref.
Gall raves achosi llawer iawn o darfu ar gymunedau lleol, mae peryglon i'r rhai sy'n mynd iddynt a gallant arwain at ddifrod helaeth i'r amgylchedd lleol.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein cymunedau rhag yr effeithiau niweidiol y gall y digwyddiadau anghyfreithlon hyn eu cael a pharhau i gasglu gwybodaeth, cynnal patrolau a gweithio gyda phartneriaid i'w hatal rhag digwydd.