Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd pedwar dyn a chawsant eu cyhuddo’n ddiweddarach o droseddau cyflenwi cyffuriau yn rhan o ymgyrch i fynd i’r afael â phobl sy’n cyflenwi a defnyddio cyffuriau yng Nghasnewydd ym mis Mehefin.
Atafaelwyd cocên, canabis, arian parod ac arfau tanio ffug yn ystod Ymgyrch Triton, lle gweithredodd swyddogion warantau mewn pedwar cyfeiriad yng Nghasnewydd ddydd Mercher 8 Mehefin.
Arestiwyd pedwar dyn - 34, 27, 22 a 22 oed - pob un ohonynt o Dŷ-du ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A - cocên - a chynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B - canabis.
Cawsant eu cyhuddo o’r troseddau hy yn ddiweddarach a gwnaethant ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener 10 Mehefin.
Meddai Ditectif Arolygydd Steven Thomas, a arweiniodd yr ymgyrch:
"Mae mynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau a throseddau cysylltiedig yn flaenoriaeth i ni, ac atafaelwyd swmp mawr o arian a chyffuriau yn ystod y gwarantau hyn.
"Nid oes unrhyw le i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas, ac rydym wedi cymryd cyffuriau dosbarth A a dosbarth B oddi ar strydoedd Casnewydd.
“Mae’r arestiadau hyn yn atgoffa pobl sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn ardal Gwent y byddwn yn parhau i dargedu pobl sy’n rhan o’r gweithgareddau anghyfreithlon hyn yn ein cymunedau."
Gellir rhoi gwybodaeth i ni trwy neges uniongyrchol ar Twitter a Facebook neu drwy ffonio 101.
Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.