Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:36 29/06/2022
Rydym yn ymchwilio i ymosodiad yn Monnow Street, Trefynwy tua 1.15am ddydd Sul 26 Mehefin, ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol.
Aeth swyddogion i safle’r digwyddiad ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae dyn 43 oed o Poole yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cafodd tri dyn - un 21 oed a dau 19 oed - o ardal Trefynwy eu harestio ar amheuaeth o ymosodiad.
Mae dyn 19 oed yn dal yn y ddalfa a rhyddhawyd y dyn arall 19 oed ar fechnïaeth amodol.
Cafodd y dyn 21 oed ei ryddhau yn ddiweddarach heb ei gyhuddo.
Mae ymholiadau'n parhau a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau CCTV neu gamera car o Monnow Street, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2200213333.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.