Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymchwilio i adroddiad am ymosodiad yn Bridge Street, Trecelyn tua 10.30am ddydd Gwener 10 Mehefin.
Yn ôl pob sôn, ymosododd menyw, y credir iddi fod yn ei harddegau hwyr, ar ferch 16 oed mewn arhosfa bysus tu allan i Ysgol Gyfun Trecelyn.
Cafodd y ferch anaf i’w hwyneb a chafodd ei chynghori i fynd i’r ysbyty i wneud yn siŵr ei bod yn iawn.
Yn ôl y disgrifiad roedd y fenyw yn wyn ac roedd ganddi wallt tywyll a oedd yn cael ei wisgo mewn torch.
Roedd hi’n gwisgo siaced binc, trowsus du a gwyn, esgidiau pinc gloyw ac roedd ganddi sach cefn.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a oedd yn Bridge Street rhwng 10.15am a 10.45am ddydd Gwener 10 Mehefin neu unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys pobl â lluniau CCTV neu gamera car, gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom, gan grybwyll rhif cofnod 2200193872, gyda manylion.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.