Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:57 18/03/2022
Ymunwch â'r frwydr yn erbyn cam-fanteisio’n rhywiol ar blant
Mae heddluoedd a sefydliadau ledled y wlad yn galw ar y cyhoedd i ddod at ei gilydd i ymladd yn erbyn cam-drin rhywiol sy'n cynnwys gorfodi a dylanwadu ar bobl ifanc o dan 18 oed ac, yn aml, gwneud iddyn nhw ymddwyn yn droseddol.
Nod y diwrnod cenedlaethol yw tynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant ac annog pawb i feddwl am gam-drin, sylwi ar yr arwyddion a siarad yn ei erbyn a mabwysiadu agwedd dim goddefgarwch tuag at oedolion sy'n datblygu perthynas amhriodol â phlant.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
"Mae gan bob un ohonom ni ran yn y gwaith o atal y math hwn o drosedd rhag digwydd.
"P'un a ydych chi'n dyst iddo, yn ei glywed neu'n ei brofi, gallwch wneud rhywbeth yn ei gylch.
"Rydyn ni yma i wrando, i amddiffyn ac i weithredu."
Mae'r diwrnod yn cael ei gynnal gan rwydwaith NWG, rhwydwaith atal cam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Mae'n cynnig cymorth strategol a gweithredol ar draws asiantaethau gwirfoddol/statudol sy'n mynd i'r afael â cham-fanteisio ar blant, yn enwedig cam-fanteisio rhywiol, sydd â chysylltiadau ledled Ewrop, De-ddwyrain Asia, Affrica, Canada ac UDA. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys mwy na 230 o sefydliadau yn y DU ac mae wedi helpu dros 50,000 o blant yn y DU sydd wedi gorfod cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin.
Aeth y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman ymlaen i ddweud:
"Gall cam-fanteisio’n rhywiol hefyd gael ei ddefnyddio fel dull gan grwpiau troseddu cyfundrefnol, a elwir hefyd yn gangiau llinellau cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn aml yn cael eu gorfodi i gyflawni troseddau fel taliad am ffafrau, rhoddion a gwasanaethau eraill.
"Os ydych chi'n poeni am newid ymddygiad neu arfer person ifanc, ac yn meddwl y gallai fod yn cael ei gam-drin, dewch i siarad â ni.
"Byddwch yr un sy'n helpu person ifanc, nid yr un sy’n ei niweidio."
Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser, ar gyfer pob adroddiad nad yw'n argyfwng gallwch anfon neges atom ar y cyfryngau cymdeithasol, mynd i’n gwefan neu ffonio 101.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert:
"Mae amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth i ni yng Ngwent a dim ond trwy waith cydweithredol cadarn gyda’n partneriaid y gallwch geisio darparu’r gwasanaeth gorau posibl i rai o’n dinasyddion mwyaf bregus.
“Mae cam-fanteisio rhywiol yn berygl i bob plentyn a dyna pam mae atal troseddau fel hyn ac amddiffyn ein plant rhag niwed difrifol yn cael cymaint o sylw yn fy nghynllun heddlu a throsedd ar gyfer Gwent. Gallaf eich sicrhau y bydd pob adroddiad sy’n ymwneud â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant yn cael ei gymryd o ddifrif ac yn cael ei ymchwilio’n drwyadl gan Heddlu Gwent.
“Fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i gefnogi’r llu i ddefnyddio a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn ymlid ac arestio pobl sy’n manteisio ar ein plant ar-lein, gyda’r nod o ddwyn y rhai sy’n cam-fanteisio arnynt gerbron y llysoedd."