Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion yn defnyddio HGV heb ei farcio i fynd i'r afael â defnydd peryglus o ffyrdd fel rhan o Ymgyrch Tramline.
Dychwelodd swyddogion i gaban HGV heb ei farcio yr wythnos diwethaf fel rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â throseddau moduro ar yr M4.
Fel rhan o Ymgyrch Tramline, menter diogelwch ar y ffyrdd genedlaethol, roedd swyddogion o'n hadran plismona ffyrdd ac ymgyrchoedd arbenigol ac uned ymchwilio i wrthdrawiadau fforensig yn nodi enghreifftiau o yrru anghyfreithlon neu anniogel.
Cafodd gyrwyr a gafodd eu gweld yn cyflawni trosedd, er enghraifft defnyddio ffôn symudol neu beidio â gwisgo gwregys ddiogelwch, eu stopio yn ddiweddarach gan swyddogion.
Cynhaliwyd yr ymgyrch rhwng cyffyrdd 22 a 30 yr M4, rhwng dydd Llun 14 a dydd Iau 17 Mawrth.
Canfuwyd mwy na 40 o droseddau moduro ar y draffordd yn ystod yr ymgyrch wnaeth bara bedwar diwrnod:
Dywedodd PC Matt Rue: "Mae'n rhaid i fodurwyr feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd - gall tynnu eu sylw oddi ar y ffordd am eiliad newid bywydau diniwed. Dyw'r risg byth werth ei chymryd.
"Mae'r HGV yn arf defnyddiol gan ei fod yn rhoi cyfle i'n swyddogion nodi modurwyr a allai fod yn cyflawni trosedd o safle uwch.
"Rydym wedi ymrwymo i wella diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd yng Ngwent ac mae ymgyrchoedd fel hyn yn un o'r ffyrdd yr ydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mathau hyn o droseddau moduro.
"Rwy'n gobeithio bod canlyniadau'r ymgyrch hon yn anfon neges glir bod gyrru anghyfrifol yn annerbyniol ac y bydd camau pendant iawn yn cael eu cymryd yn eich erbyn."