Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymatebodd Heddlu Gwent i 81 y cant o alwadau 999 mewn llai na 10 eiliad, yn ôl ffigurau a ddarparwyd gan BT.
Mae'r data newydd a gyhoeddwyd ddydd Mawrth 31 Mai, fel rhan o dryloywder plismona, yn dangos bod y gwasanaeth yn parhau i ymateb yn brydlon i alwyr, er bod y galw yn cynyddu, drwy ragori ar y cyfartaledd cenedlaethol sef 71.2 y cant.
Mae'r data perfformiad ar ba mor hir y mae'n ei gymryd i heddluoedd ateb galwadau 999 yn dangos sut mae heddluoedd yn cyflawni yn erbyn y targed cenedlaethol o ateb 90 y cant o alwadau o fewn 10 eiliad.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
"Mae pobl yn ffonio ein gwasanaeth 999 pan fydd angen ein cymorth a'n cefnogaeth arnyn nhw fwyaf, felly mae'n hanfodol ein bod yn cynnig gwasanaeth prydlon ac ymatebol i'r galwyr hynny.
"Rydym ni’n gofyn i unrhyw un sy'n ystyried cysylltu â ni feddwl am y ffordd fwyaf priodol – a chadw 999 ar gyfer sefyllfaoedd brys pan rydych chi neu berson arall mewn perygl uniongyrchol, neu pan fo trosedd yn digwydd.
"Gan fod dewis cynyddol o opsiynau i gysylltu â ni o'n rhif 101 ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys i'r cyfryngau cymdeithasol neu ein gwefan, rydym yn gofyn i bobl weithio gyda ni i wneud yn siŵr y gallwn ni helpu'r bobl mwyaf anghenus.
"Mae galwadau jôc neu rywbeth sydd yn bwysig ond nid ar unwaith yn golygu y gallem ni gymryd mwy o amser i gyrraedd rhywun a allai fod mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol ac mae bron i draean o'n galwadau 999 nad ydynt yn arwain at adroddiad digwyddiad neu drosedd.
"Mae'r data hwn yn ein helpu i reoli'r galw cynyddol yr ydym yn ei wynebu yn sgil cynnydd sylweddol mewn cysylltiadau dros y 18 mis diwethaf.
"Rydym eisiau sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth gorau posibl cyn gynted â phosibl ac mae deall profiad galwyr yn helpu i roi ffocws i’n dull gweithredu.
"Gan fod nifer cynyddol o ffyrdd o gysylltu â ni, a llawer o gyngor ar sut i ddewis yr opsiwn gorau gall pob un ohonom ni chwarae rhan wrth sicrhau bod Heddlu Gwent ar gael ar ben arall y ffôn pan fydd y gwaethaf yn digwydd."
Bydd y data, a ddarperir gan BT, yn dangos profiad y cyhoedd o ran amseroedd aros wrth ddeialu 999 o'r eiliad y caiff yr alwad ei chyfeirio at yr heddlu i'r adeg pan atebir yr alwad gan yr heddlu.
Rhyddhawyd y data fel rhan o Gynllun Curo Troseddau Llywodraeth y DU ac mae'n dangos bod heddluoedd ledled y DU wedi derbyn 5,218,350 o alwadau rhwng dydd Llun 1 Tachwedd a dydd Sadwrn 30 Ebrill, un galwad bob tair eiliad ar gyfartaledd.
Ymatebodd Heddlu Gwent i fwy na 37,000 o alwadau 999 yn unig rhwng mis Tachwedd a chanol mis Mai.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio staff canolfannau cyswllt a rheoli'r heddlu felly os ydych chi'n credu bod gennych chi agwedd bwyllog sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, yna dysgwch fwy am y manteision sydd ar gael yma.