Stamp amser presennol: 07/02/23 09:09:25
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

GWENT POLICE FULL_ white

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Swyddogion Gwent yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol i drechu masnachwyr twyllodrus

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Newyddion

10:31 16/05/2022

Cynhaliwyd y gweithgarwch gorfodi wythnos o hyd rhwng dydd Llun 9 Mai a dydd Gwener 13 Mai a bu swyddogion o Heddlu Gwent yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol i dargedu masnachwyr sy'n torri'r gyfraith sy'n manteisio ar breswylwyr sy'n agored i niwed.

Mae Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus wedi bod ar waith ers 2006 ac mae heddluoedd ledled y wlad yn gweithio gyda safonau masnach i darfu ar fasnachwyr twyllodrus a chymryd camau gorfodi yn eu herbyn mewn wythnos o weithgarwch â phwyslais.

Nod yr ymgyrch ar y cyd yw lleihau nifer y digwyddiadau masnachu twyllodrus, cynyddu diogelwch ar y ffyrdd a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau ar garreg y drws.

Drwy gydol yr wythnos, cynhaliodd swyddogion archwiliadau diogelwch ar y ffyrdd fel rhan o weithgarwch diweddaraf Ymgyrch Utah, aeth ar batrolau gyda phartneriaid awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag achosion o dorri amodau trwyddedu a gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgysylltu â chludwyr gwastraff a sgrap.

Nod Ymgyrch Utah yw nodi a mynd i'r afael â defnyddwyr ffyrdd sy'n rhoi modurwyr eraill mewn perygl drwy yrru'n anghyfreithlon neu drwy yrru cerbydau nad ydynt yn cyrraedd safon ddiogel. Yn rhan o’r ymgyrch, mae’r heddlu'n gweithio gyda phartneriaid o'r DVSA, DVLA a chynghorau lleol i gynnal archwiliadau o gyflwr cerbydau ac a oes gan yrwyr y drwydded, y dogfennau yswiriant a threth angenrheidiol.

Multi agency pic .jpg

Yn ystod Wythnos Masnachwyr Twyllodrus, roedd timau plismona yn y gymdogaeth hefyd allan mewn cymunedau i roi cyngor ac arweiniad i'r cyhoedd ynghylch cadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel rhag masnachwyr sy’n cymryd mantais.

Dywedodd y Rhingyll Lee Stachow:

"Mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn fanteisgar ac yn ddiegwyddor, gan dargedu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau er mwyn gwneud elw.

"Gall troseddau fel y rhain gael effaith enfawr ar ddioddefwyr ac ni fyddwn yn eu goddef yng Ngwent.

"Mae'n hanfodol ein bod yn atal, yn tarfu ar fasnachwyr twyllodrus gan gymryd camau gorfodi yn eu herbyn ac mae ein neges iddynt yn syml: p'un a ydych yn defnyddio cerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer y ffordd, yn manteisio ar gwsmeriaid sy'n agored i niwed drwy godi tâl am waith diangen, neu’n gwerthu nwyddau ffug, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddiogelu'r cyhoedd, dod o hyd i chi a dod â chi i gyfiawnder.

"Rydym yn parhau i annog pobl i gadw llygad ar breswylwyr oedrannus ac agored i niwed a chysylltu â 101 os ydych yn amau masnachu twyllodrus yn eich ardal chi."

Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Rwy’n hynod o falch o weld gwaith partneriaeth ardderchog yn digwydd i helpu i atal cymunedau rhag niwed. Mae masnachwyr twyllodrus yn achosi dinistr emosiynol ac ariannol i bobl o bob oed, ac mae’n rhaid eu hatal.

“Mae cefnogaeth ar gyfer dioddefwyr yn bwysig, ac felly rwy’n falch iawn bod swyddogion lleol wedi bod yn gweithio’n agos gyda thimau safonau masnach i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl y mae masnachwyr twyllodrus wedi manteisio arnyn nhw.

“Cynhaliwyd gwaith trylwyr yn gwirio cerbydau a thrwyddedau fel rhan o’r Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus. Mae gan bob gyrrwr a busnes gyfrifoldeb i sicrhau bod eu cerbydau mewn cyflwr da sy’n addas i fod ar y ffordd ar ddechrau pob taith. Drwy wneud hyn, gallan nhw helpu i atal damweiniau a chadw’u hunain a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ddiogel.”

Cadwch y tacle allan o’ch catre | pum awgrym a rannwyd gan swyddogion drwy gydol yr wythnos

1. Peidiwch byth â gweithio gyda galwyr diwahoddiad a pheidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch i wneud gwaith diangen.

2. Gwiriwch pwy yw'r galwr drwy ffonio'r cwmni y maen nhw'n dweud eu bod yn dod ohono. Defnyddiwch y rhifau ffôn a restrir yn eich cyfeiriadur lleol yn hytrach na'r rhai a ddarperir yn annibynnol gan y darparwr gwasanaeth.

3. Peidiwch byth â thalu arian parod ymlaen llaw a pheidiwch byth â mynd i'r banc neu'r twll yn y wal gyda masnachwr.

4. Dylech bob amser gael tri dyfynbris gan wahanol gwmnïau cyn cytuno i wneud gwaith.

5. Trafodwch unrhyw waith rydych chi'n credu sydd angen ei wneud ar eich eiddo gyda pherthynas neu ffrind a all eich helpu i ddod o hyd i fasnachwr ag enw da.

 

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.