Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn gyntaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith da ein swyddogion cymorth cymunedol.
Yn ogystal â chefnogi ymchwiliadau a phatrolio ein cymdogaethau, maen nhw wedi cynnal digwyddiadau ymgysylltu gwych yn yr ardal yn ddiweddar. Nod y digwyddiadau hyn (y mae rhai ohonyn nhw wedi'u gwneud yn bosibl gan Gronfa Effaith Gadarnhaol Swyddfa'r Comisiynydd) yw meithrin ein perthynas ag aelodau o'r gymuned a sicrhau bod swyddogion ar gael yn rhwydd ac yn hawdd mynd atyn nhw.
Mae'r adborth yr ydym wedi’i gael wedi bod yn gadarnhaol iawn a hoffwn i ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith caled a'u harloesedd wrth drefnu eu digwyddiadau yn Abertridwr, Parc Lansbury, Glyn Derw a mwy.
Mynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau
Ethos ein tîm yw ymgysylltu, addysgu a gorfodi ac, wrth ymdrin â throseddau fel cyflenwi cyffuriau, rydym yn gweithio'n galed i ddod â throseddwyr sy'n cam-fanteisio ar bobl agored i niwed ac sy'n achosi niwed a dioddefaint yn ein cymunedau o flaen eu gwell.
Yn ddiweddar, ymchwiliodd cydweithwyr o'n tîm troseddau trefnedig difrifol i ddyn o Drethomas yr oeddem yn amau ei fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau. O ganlyniad i'w dyfalbarhad a'u proffesiynoldeb wrth gasglu tystiolaeth, cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Gadewch i hynny fod yn rhybudd i'r rhai sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau – boed hynny'n delio, storio, cludo neu elwa ar yr elw. Mae ein swyddogion wedi ymrwymo i ddiogelu ein cymunedau rhag effaith ddinistriol cyffuriau anghyfreithlon ac maen nhw’n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r cyhoedd am yr effaith gadarnhaol y maen nhw’n ei chael ar ein hymchwiliadau a gofyn, unwaith eto, eich bod yn parhau i roi gwybod i ni am unrhyw amheuon sydd gennych fod cyffuriau'n cael eu gwerthu yn eich ardal chi. Mae ein hymchwiliadau wedi’u seilio ar wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd gan ein cymunedau.
Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau
Mae ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi a fy swyddogion, ac rwy’n ddiolchgar i rieni a gwarcheidwaid yr ydym wedi siarad â nhw'n ddiweddar wrth roi gwybod iddyn nhw am ymddygiad eu plentyn. Cafodd swyddogion ymateb cadarnhaol ac mae'n braf gweld trigolion yn gweithio gyda ni i fynd i'r afael ag ymddygiad sy'n cael effaith negyddol ar ein cymunedau.
Mae'n ddealladwy bod y rhan fwyaf o rieni a gwarcheidwaid wedi'u synnu pan fyddwn yn ymweld, gan nad oedden nhw’n ymwybodol o ymddygiad eu plant nac yn ei amau. Rwy’n annog ein holl bobl ifanc i barhau i ddefnyddio ein mannau cyhoeddus, ond, pan fydd gennym achosion o ddifrod troseddol neu ymddygiad bygythiol a sarhaus, bydd fy swyddogion yn ymyrryd.
Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau am danau gwair bwriadol yn wardiau de Caerffili, ac yn gweithio gyda phartneriaid yn y gwasanaethau brys a'n cymunedau i addysgu pobl ifanc am y peryglon a chanlyniadau posibl ymddygiad o'r fath.
Mae swyddogion cymdogaeth wedi ymuno â thimau troseddau gwledig a throseddau tân yn ogystal â phersonél Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar batrolau ac mae amrywiaeth o dactegau'n cael eu defnyddio i ganfod pwy yw’r troseddwyr a dod o hyd iddyn nhw.
Heddlu bach yn ymuno ag ymgyrch parcio diogel ac yn rhannu cyngor ar atal trosedd
Hoffwn longyfarch a diolch i 22 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhydri am ymuno â'n timau Heddlu Bach.
Mae 'swyddogion' Heddlu Bach wedi bod yn weithgar iawn ar draws ein cymuned ac wedi helpu ein swyddogion yn ddiweddar gyda phatrolau parcio ysgol, casglu sbwriel, gwaith ar randiroedd a phatrolau atal trosedd gwych wrth wirio cerbydau wedi'u parcio am unrhyw bethau gwerthfawr sydd wedi’u gadael lle gall pawb eu gweld.
Mae hyn yn fy arwain at apêl bersonol o ran rhai camau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd i atal trosedd tymhorol oportiwnistaidd.
Yr wythnos ddiwethaf cawsom adroddiadau am ddyn yn cerdded ar hyd palmant yng Nghaerffili yn ceisio agor dolenni drysau nifer o gerbydau wedi'u parcio yn ystod y prynhawn. Gall y math hwn o drosedd oportiwnistaidd ddigwydd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg, felly gwnewch yn siŵr bod eich ceir a'ch tai yn ddiogel, eich bod yn symud unrhyw eitemau gwerthfawr o'r golwg, yn eu storio'n ddiogel yn eich cist neu’r bocs menig, ac yn parhau i roi gwybod i ni am unrhyw weithgaredd amheus.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu eich eitemau gwerthfawr, ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/cp/cyngor-atal-troseddau/dwyn-cerbyd/cerbyd-yn-ddiogel/
Croesawu swyddogion newydd i'n tîm plismona
Ers fy mlog diwethaf, rydym wedi gweld nifer o bobl yn ymuno â'n tîm plismona yn y gymdogaeth.
Mae PC 1696 Leanne Gay wedi ymuno â ni yn wardiau Bedwas, Trethomas a Machen, ac mae CSO 407 Sian Morris wedi ymuno â wardiau St James a Van. Rwyf hefyd wedi croesawu swyddog newydd i fy nhîm gorfodi cymdogaethau, a fydd yn cynnal patrolau amlwg a chudd, wedi’u harwain gan gudd-wybodaeth, i dargedu pobl sydd â’r bwriad o droseddu, yn enwedig delio cyffuriau ar y stryd sydd wedi'i nodi fel pryder gan ein cymuned.
Os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter plismona cymdogaeth (@GPCaerphilly) a'n tudalen Facebook (@gwentpolice), lle mae swyddogion yn rhannu newyddion am ein cymorthfeydd heddlu rheolaidd. Mae'r cymorthfeydd yn caniatáu i chi gwrdd â'ch swyddogion lleol a siarad am unrhyw bryderon sydd gennych. Bydd swyddogion yn llyfrgell Caerffili ddydd Mawrth 7 Mehefin rhwng 10am ac 11am, a dydd Iau 30 Mehefin rhwng 2pm a 3pm, felly beth am ddod draw i gwrdd â'r tîm?
Allech chi ymuno â'n timau plismona?
Mae eich tîm cymdogaeth yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o amddiffyn a thawelu meddwl yng Ngwent. Maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â'n swyddogion ymateb, sy'n ateb galwadau am gymorth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae ein timau ymateb wrth wraidd plismona ac yn ymdrin ag amrywiaeth o ddigwyddiadau; mae eu gwaith yn galluogi'r timau cymdogaeth i ganolbwyntio ar y materion parhaus sy'n effeithio ar ein cymunedau.
Felly, mae'n braf cadarnhau ein bod wedi croesawu tri swyddog ymateb newydd ym Medwas ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi a'u gweld yn datblygu.
Diolch i'r holl swyddogion hyn am ein cadw'n ddiogel, gan gynnwys fy nheulu a mi.
Mae'n rôl heriol, ond yn un sy'n rhoi boddhad mawr. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Heddlu Gwent fel cwnstabl heddlu (PC), gweler adran swyddi gwag ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Diolch.
Yr Arolygydd Rhys Caddick