Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn fy mlog diwethaf, fe wnes i ddiolch i chi – cymunedau Blaenau Gwent – am y ffordd y daethoch at eich gilydd drwy gydol pandemig y Coronafeirws.
Er ein bod yn dal i fyw â'r feirws heddiw, oherwydd codi'r cyfyngiadau, rydym bellach yn gallu ailddechrau'r digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb y gwnaethom weld eu heisiau drwy gydol y pandemig.
Edrychaf ymlaen felly at gyfnod yr haf gan ragweld rhaglen lawn o ddigwyddiadau cymunedol gan gynnwys dathlu Jiwbilî'r Frenhines ym mis Mehefin.
Mae'r digwyddiadau pwysig hyn yn rhoi cyfleoedd i'n cymunedau ddod at ei gilydd; bydd eich timau plismona lleol yn ymwneud yn helaeth â chefnogi'r achlysuron hyn ac edrychwn ymlaen at siarad â chi dros y misoedd nesaf.
Ni allwn anwybyddu sut y mae costau byw cyffredinol yn effeithio ar bob un ohonom, gan roi pwysau ariannol ychwanegol ar unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o’n cymunedau.
Gall hyn, yn anffodus, effeithio ar droseddu hefyd – yn enwedig troseddau sy'n gysylltiedig â dwyn yn ystod y misoedd cynhesach, lle mae lladron manteisgar yn ceisio manteisio.
Rydym yn dadansoddi tueddiadau troseddu bob dydd, wrth gwrs, ac, wrth i ni nesáu at gyfnod yr haf a thywydd cynhesach (lle rydym yn gweld cynnydd ystadegol mewn lladrata), rydym yn parhau i weithio'n galed i adnabod troseddwyr, a chefnogi ymyriadau sy'n lleihau aildroseddu.
Mae'r rhan fwyaf o droseddau dwyn yn fanteisgar eu natur ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae camau syml y gall pawb eu cymryd i helpu i ddiogelu eu heitemau gwerthfawr.
Gall pethau fel sicrhau eich bod yn cloi eich cerbyd, peidio â gadael eitemau ar y dash neu'r sedd gefn lle gall pawb eu gweld a chau pob ffenestr atal lladrata o gerbyd, a gall defnyddio datrysiadau marcio eiddo, cloeon o ansawdd da a chynwysyddion y gellir eu cloi helpu i gadw eitemau sy'n cael eu storio mewn siediau a garejys yn ddiogel.
Os oes angen unrhyw gyngor neu arweiniad arnoch ar sut i ddiogelu eich eiddo, cysylltwch ag aelod o'n tîm plismona lleol, a fydd yn fwy na pharod i helpu. Fel arall, gallwch ymweld â'n gwefan, anfon e-bost i [email protected] neu fynd i un o'n cymorthfeydd heddlu.
Cymorthfeydd yr heddlu, dywedwch . . . beth ydyn nhw?
Wel, yn syml, mae'r rhain yn gyfleoedd gwych i chi siarad yn uniongyrchol â'ch tîm plismona lleol. Byddwch yn gallu cwrdd â'r swyddogion sy'n gweithio yn eich cymdogaethau, siarad am unrhyw bryderon sydd gennych a gofyn am gymorth neu arweiniad am faterion rydych chi'n eu hwynebu.
Yn ogystal â bod yno i siarad am ein gwaith, yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'ch pryderon a thawelu'ch meddwl, mae'r cymorthfeydd hefyd yn ddefnyddiol iawn i ni o ran casglu gwybodaeth hanfodol. Mae gwybodaeth a gawn gennych chi, y gymuned, yn hanfodol i'n galluogi i ddeall yn iawn beth yw'r materion gwirioneddol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar drigolion – sy'n golygu y gallwn lunio ein gweithgareddau gorfodi yn uniongyrchol o amgylch y pryderon hyn.
Cynhelir cymorthfeydd yr heddlu mewn amrywiaeth o leoedd – ond, yn bwysicaf oll, dylid eu cynnal mewn lleoliadau sy'n hygyrch i gynifer o bobl â phosibl. Os oes gennych unrhyw leoliadau penodol a fyddai'n elwa ar gynnal cymhorthfa heddlu yn eich barn chi, cysylltwch â'ch tîm plismona lleol [insert contact].
Byddwn yn parhau i hysbysebu cymorthfeydd a gynhelir ledled Blaenau Gwent drwy gyfrif Twitter eich swyddogion (@GPBlaenauGwent) ac yn yr adran digwyddiadau ar y dudalen Facebook (@heddlugwent).
Yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gymorthfeydd a digwyddiadau sydd ar y gweill, mae ein cyfrif Twitter hefyd yn rhoi cipolwg i chi o waith eich timau plismona lleol – felly po fwyaf o bobl y gallwn ni gofrestru a'n dilyn, gorau oll!
Ar wahân i fynd i'r afael yn uniongyrchol â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae'r timau cymdogaeth hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau eraill sydd wedi'u cynllunio i gadw pobl yn ddiogel a lleihau troseddu/ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae ein gweithgareddau ychwanegol diweddar yn cynnwys:
Ymgyrch diogelwch gwregysau diogelwch
Yn ddiweddar, cynhaliodd tîm ward Glynebwy, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymgyrch diogelwch gwregysau diogelwch.
Prif nod y fenter oedd addysgu gyrwyr am beryglon peidio â gwisgo gwregys diogelwch wrth deithio.
Digwyddiad marcio trawsnewidyddion catalytig
Cynhaliodd swyddogion Abertyleri ddigwyddiad marcio trawsnewidyddion catalytig yn y Ganolfan MOT ar Stryd y Bont.
Galwodd llawer o bobl draw, ac roedd nifer o aelodau'r cyhoedd wedi gallu cael eu trawsnewidyddion catalytig wedi'u marcio â SmartWater ar y diwrnod.
Mae SmartWater yn rhoi cyfleoedd fforensig i'r heddlu (i adnabod troseddwyr) pe bai'r trawsnewidydd catalytig yn cael ei ddifrodi neu ei ddwyn. Gwnaethom hefyd ddarparu sticeri ar gyfer eu cerbydau i ddangos bod SmartWater wedi'i ddefnyddio – sy'n rhwystr y profir ei fod yn lleihau troseddu.
Gwarchod Siopau
Gweithiodd tîm Brynmawr gyda manwerthwyr lleol i gyflwyno cynllun newydd i atal troseddu Gwarchod Siopau. Bydd y prosiect yn helpu partneriaid i rannu gwybodaeth/cudd-wybodaeth a chydlynu gweithgarwch patrol – gyda'r nod o atal dwyn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Drwy gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’n tîm NXT GEN ein hunain, fe wnaethom greu rhwydwaith sy'n cefnogi canol tref Brynmawr ac ardal y parc manwerthu gerllaw.
Cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein
Cynhaliodd tîm Tredegar wers diogelwch ar y rhyngrwyd gyda blynyddoedd pump a chwech yn Ysgol Gynradd Willowtown, gan ddangos sut y gall y plant gadw’n ddiogel ar-lein a'r peryglon o ryngweithio â dieithriaid drwy lwyfannau cymdeithasol digidol.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Arolygydd Shane Underwood