Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Tin Shed Theatre Co yn un o nifer o sefydliadau lleol sy'n elwa o gronfa Strydoedd Saffach Heddlu Gwent. Mae'r gronfa a ddyfernir gan y Swyddfa Gartref yn galluogi heddluoedd i gydweithio yn fwy â'r gymuned leol i leihau troseddu ac aildroseddu.
Mae'r cymorth a roddwyd gan Heddlu Gwent wedi cael ei ddefnyddio gan y cwmni theatr i greu gosodiad celf parhaol yn eu canolfan newydd, The Place ar Stryd y Bont, Casnewydd.
Roedd y gwaith celf, gan yr artist o Gasnewydd, Consumer Smith, yn gydweithrediad rhwng sylfaenydd y cwmni, George Harris, a'r artist Consumer Smith.
Wedi'i leoli ar y drws yr hen glwb nos Ritzy’s ar Stryd y Gogledd, mae'r gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan y diweddar Lynette Webbe, hyrwyddwr cymunedol adnabyddus ym Mhilgwenlli.
Cyn agor yr adeilad yn swyddogol a dadorchuddio'r gwaith celf ddydd Sadwrn 7 Mai, dywedodd yr Arolygydd Shaun Conway:
"Mae gweithio gyda busnesau a grwpiau lleol yn rhan greiddiol o'r ffordd yr ydym yn cadw cymunedau Gwent yn ddiogel.
"Dim ond un enghraifft yw Tin Shed o sut rydym ni'n gwneud gwahaniaeth go iawn ar draws Gwent.
"Gall celf ddod â phobl at ei gilydd, y gobaith yw bod y murlun hwn yn gweithredu fel neges ar draws Gwent y gallwn, drwy gydweithio, barhau i adeiladu cymdeithas sy'n ddiogel i bawb."
Meddai George Harris, Cyfarwyddwr cwmni theatr Tin Shed:
"Byddai Lynette yn aml yn dweud ‘you’re all bloody fantastic’ y dyfyniad rydym ni wedi'i ddewis ar gyfer y gwaith, byddai hi'n dweud hyn wrth unrhyw un a fyddai'n cael y pleser o dreulio amser gyda hi. Roedd hi’n cael ei hadnabod fel y 'Cobweb Shaker' a daeth Lynette â llawenydd, golau ac egni cadarnhaol i unrhyw un y byddai hi’n ei gwrdd. Bu hi'n allweddol wrth i Tin Shed lansio Cynllun Rhannu Sgiliau Lynette Webbe sy'n cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith nac addysg i ymgymryd â hyfforddiant â thâl yn y diwydiannau creadigol a gwnaeth hi ysbrydoli creu The Public Theatre Co. sef cwmni o bobl greadigol i unrhyw un a phawb sydd eisiau ymuno.
"Daeth dyluniad y gwaith celf o'n hymchwil i fannau negyddol, a’r ffaith bod llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd mewn lleoliadau sy'n edrych yn wael ac sydd wedi’u cau i ffwrdd, naill ai drwy ddadfeiliad, dyluniad ac yna, agwedd. Roedd drysau'r clwb nos wedi dod yn un o'r mannau hyn, ac roeddem eisiau archwilio prosiect gyda Heddlu Gwent a oedd yn gweithio tuag at newid agweddau ac ymddygiadau i fannau awyr agored drwy osod celf weledol gadarnhaol ac effeithiol, a chafodd y cysyniad ar gyfer y gwaith celf hwn ei eni"
Mae'r prosiect celf gyhoeddus hwn yn rhan o prosiect ‘The People are the City’ cwmni theatr Tin Shed, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, Cyngor Dinas Casnewydd, TGP Cymru a Heddlu Gwent. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.theplacenewport.com
Ers mis Ebrill 2021, mae Heddlu Gwent, mewn partneriaeth â'r gymuned leol, wedi cyflwyno goleuadau stryd ychwanegol, clychau drws digidol, arwyddion a mesurau eraill i wneud strydoedd Gwent yn fwy diogel.
I gael gwybod mwy am brosiect Strydoedd Saffach ewch i: Strydoedd Saffach | Heddlu Gwent